Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. dDtjfra CflBrftjrììiin. "yng ngwyneb haul a llygad goleünl' "a gair düw yn uchaf." Rhip. 152. AWST, 1869. Cyp. 13. DUWDOD PERSONOL Y DRINDOD. Nid oes ond un Duw. Dyna yw pwnc mawr yr Hen Destament: Duwdod y Gair a'r Ysbryd Glân yw pwnc mawr y Testament Newydd. Yr ydym yn casglu o luaws o leoedd yn yr Ysgrythyr fod y Duwdod yn gynnwysedig o Dri Pherson Dwyfol; bod pob un o honynt yn Dduw ac yn Arglwydd, yn hollalluog ae yn dragwyddol; ac eto nad oes dim tri Duw, na thri Arglwydd; nad oes dim tri Holl- alluogion na thri Thragwyddolion; ond un Duw, un Arglwydd, un hollalluog, un tra- gwyddol, fel yr esbonir yn helaethach yng Nghredo Sant Athanasius. Syniad gwreiddioldifinyddiaeth y Groeg- iaid a'r Lladinwyr gynt befyd, fel y gweìir oddi wrth ysgrifeniadau Plato, Cicero, a lluaws mawr o awduron paganaidd ereill, oedd, mai un Duw sydd. Ac er eu bod yn addoli amryw dduwiau a duwiesau, megys Minerfa, Juno, Bacchus, Sadwrn, Apollo, Mercurius, Pluto, Hercules, Diana, Nep- tune, a llawer ereill, eto eu golygiad gwreiddiolaf a dyfnaf oedd, mai yr un gallu dwyfol oedd yn cael ei roi ar waith gan yr holl dduwiau a duwiesau hyn. Mae hyn yn fwy amlwg pan ystyriom fod perthynas deuluaidd rhwng yr holl rai hyn a'u gilydd: golygid hwynt oll yn aelodau o'r un teulu llinachyddol: golygid mewn gwirionedd mai un Duw oedd y rhai hyn oll. Yr oedd y Groegiaid yn addoli'r Duwdod hwn dan yr enw Zeus, a'r Lladin- wyr dan yr enw Jupiter. Dyna, meddaf, oedd y golygiad gwreiddiol. Ond nid hir y bu cyn i'r paganiaid ddirywio yn eu golygiadau, a dyfod i gredu fod amryw dduwiau gwirioneddol, ac nid un Duw yn gweithredu trwy amryw fathau o amlyg- iadau dwyfol. Hwy a gollasant eu golwg ar undod y Duwdod, ac a aethant i adduli pob math o weithrediadau naturiol, a phob 29—XIII. amlygiad o allu anianol, gan olygu pob un o'r rhai hyn yn dduw gwahanredol yn gweithredu wrtho ei hun, trwy ei nerth a'i ewyllys personol, ar wahân oddi wrth ffynnonell dwyfol ddylanwad. Hyn, yr wyf yn tybied, yw y darluniad y mae Sant Paul yn ei roddi o ddifinyddiaeth y pagan- iaid yn y bennod gyutaf o'i Epistol at y Rhufeiniaid: "O blegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant Ef megys Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd. Hwy a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolas- ant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr." Dyna'r dull y mae yr apostol yn esbonio dirywiad gwirionedd undod y Duwdod i gelwydd a ffolineb aml- dduwiaeth. Ond un o'r achosion pa ham y cymmer- odd y dirywiad galarus hwn le ym medd- yliau y pagàniaid oedd, fod eu dychymmyg bywiog a gwresog yn hiraethu am dduw neu dduwiau personol. Yr oedd eu calon anneallus hwynt yn analluog i ystyried y Duwdod, dan yr enw Zeus, neu Jupiter, yn hanfod personol. Yr oedd y Duwdod cyn- tefig iddynt hwy yfe allu ammhersonol i raddau mawr; gallu dwyfol eiddigus, yn dueddol i fod yn sarig, neu i gospi; neu, yn ol barn yr Epicureaid, yn aÙu mor fawreddog a goruchel fel nad oedd yn cymmeryd dim dyddordeb yn helyntion meibion dynion. Ac yr oeddynt fel hyn 3_u amlhau eu duwiau, er mwyn gwneuthur y Duwdod yn hanfod personol, a'i ddwyn megys yn agos atynt hwy eu hunain. Wrth olygu y Duwdod yn hanfod am- mhersonol (yr hyn nis gallent ei ddychym- mygu na'i oddcf), nis gallent hwy garu'r Duwdod, ac nis gallai yntau eu caru hwy- thau; ond yr oedd iddynt hwy yn hanfod