Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L Ctffra tofijŵa. YNG NGWYNBB HAÜL A LLYGAD GOLEÜNI. "A GAIR DÜW YN UCHAF." Rhip. 153. MEDI, 1869. Cyp. 13. ENWOGION YR EGLWYS. YR ARCHESGOB LONGLEY. Yb ydym yn byw mewn cyfnod cynhyrfus —cyfnod pan mae gelynion yr Eglwys â'u holl egni yn ceisio ei dadymchwelyd— cyfnod ag y mae hen draddodiadau hynafol ac ahwyl yn cael eu dirmygu, y rhai oedd yn cael parch cyffredinol yn nyddiau ein teidiau—gan y rhai hyny ag oedd wedi ym- adael á'i chyfundeb, yn gystal a'r Eglwys- wr. Yr ydym yn byw mewn cyfnod pan mae yr egwyddorion a drosglwyddwyd i lawr i ni gan ein tadau yn cael eu ham- mheu a'u hammharchu. Nis gall neb ag sy wedi talu sylw i arwyddion yr amserau ammheu nad oes arwyddion amlwg o ystorm yn ymgasglu; ond mae lle genym i gredu y bydd iddi, wedi i'r cymylau gael eu chwalu, adnewyddu ei nerth fel yr eryr, y bydd i haul ei llwyddiant ddysgleirio yn fwy tanbaid a llachar nag erioed. Gall y Senedd gymmeryd y meddiannau hyny ag sydd wedi cael eu gadael iddi, trwy drais ac anghyfiawnder, fel ag y mae y Senedd yn bwriadu gwneyd ag eiddo Eglwys yr Iwerddon; ond ni fydd iddi gael ei difodi; y mae wedi cael ei seilio ar Graig yr Oes- oedd, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. Nid oes achos i ni ofni y canlyniadau, ond bod yn ffyddlawn i Dduw ac i'w Eglwys. Er na fu gwrthddrych ein bywgraffîad yn llanw y swydd bwysig o archesgob yn hir, cymmerodd dygwyddiadau pwysig le; ond nid ydym eto yn gallu rhagweled y canlyniadau. "Amser a ddengys," medd yr hen ddiareb: y mae yn amlwg fod ei ddylanwad yn fawr mewn cylchoedd uchel. Yr oedd ei fywyd yn fywyd sanctaidd a diargyhoedd; nid oedd hunanoldeb yn perthyn iddo. Ei holl ymgais oedd i fod yn gyfiawn; yr oedd yn caru ei Dduw, ac eneidiau ei gyd-ddy nion; ac mae yn ddi- 33—xiii. ammheu y bydd i'w rinweddau a'i dduwiol- frydedd gael eu cadw mewn cof gan ei gydnabod, ac y bydd ei ddylanwadau i'w canfod ar fywydau a theimladau dynioo wedi i'r holl ymddadleu sydd yn awr yn cymmeryd lle gael eu gwasgar ymaith fel y cwmwl boreuol. Ganwyd Charles Thbmas Longley yn Boley Hill, ger llaw Caergraig, ar yr 28fed o Orphenaf, 1794. Ei dad ydoedd John Longley, cofiadur (jecorder) Caergraig, yr hwn oedd yn ei ddydd yn gyfreithiwr, awdwr, &c. Dy wedodd y Doctor Johnson am dano, "fod Mr. Longley o Gaergraig yn wr boneddig dysgedig, a bod ei galon yn twymo tuag ato. Rhyfeddais yn fawr ei fod mor adnadyddus â'r mesurau yn yr ieith- oedd dysgëdig." Yr oedd gan Mr. Long- ley deulu Uuosog: yr archesgob oedd y ieuengaf o 17 o blant. Mae lle i farnu nad oedd ganddo gynnysgaeth fawr gyf- erbyn â chynnifer o blant. Dechreuodd yr archesgob ddysgu Lladin dan ofal ei chwaer, Mrs. Lloyd, pan oedd yn bum mlwydd a phum mis oed. Bu am dymmor, pan yn ieuanc, mewn ysgol breifat yn Cheam. Yr oedd gfen ei dad dy yn Cran- brook, a gwnaeth gytundeb â chymmydog fod i'w fab ef a'r archesgob fyned a dyfod i'r ysgol gyda'u gilydd. Wedi i'r ddau ymadael â'r ysgol, collodd y naill olwg ar y llall am flynyddoedd. Pan ddaeth Longléy i Addington, cafodd ei hen gyf- aill, yr hwn oedd yn arfer cydrodio ag ef pan yn blentyn i'r ysgol heibio i Barc Addington, yn beriglor y plwyf, yr hwn a ddarfu ennill clod uchel yn y Brifathrofa. Adnewyddwyd yr hen gyfeiliach, yr hon oedd wedi cael ei ffurfio ym moreu eu hoes. Yng ngwyliau y Sulgwyn, 1808, cafodd