Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A UL. Ct|foa ẅrfiîrìíìíiu. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DUW YN UCHAF." Rhif. 154. HYDREF, 1869. Cyf. 13. BYWYD DEWI SANT. (Cyfieithad talfyredig o'r llyfr a elwir " Gemita Justorum") Ganwtd. Sant Dewi, gogoniant yr Eglwys Gymreig, yn y chwechfed ganrif, tua'r flwyddyn 462, pan oedd y Sacsoniaid wedi goresgyn y rhan fwyaf o Loegr, a Gwr- theyrn, brenin Prydain, wedi rhoi i fyny iddynt y taleithiau ag oedd yn cynnwys Essecs, Sussecs, Surrey, Norflblc, a Suffolc. Yr oedd yr Eglwys y pryd hyn yn cael ei herlid yn dost gan y paganiaid Sacson- aidd. Rhagddywedasid genedigaeth Dewi ddeng mlynedd ar hugain ym mlaen llaw gan Sant Padrig, apostol yr Iwerddon, pan oedd ar ei daith yno trwy Gymru. Angel, meddir, oedd wedi dadguddio hyn i Padrig. Yng nghylch dygwyddiadau goruchnaturiol o'r fath hyn, mae'r Pro- testant Ieremi Collier, yn ei Uanesyddiaeth Eglwysig, llyfr i., tudal. 58, yn dywedyd, "Gall y cyfryw bethau fod yn wir; canys ym mabandod yr Eglwys mae gwyrthiau yn fwy angenrheidiol." Yr oedd rhag- fynegiad ei enedigaeth gan angel yn cael ei goffa ar wyl Ddewi yn Llyfr Gwasan- aeth Eglwys Sarum. Yr oedd ei dad yn fab i Frenin Ceredig- ion; enw ei fam oedd Nomita, neu Melaria. Bedyddiwyd y baban Dewi gan Sant Albseus, esgob Gwyddelig Munster neu Cashel, yr hwn a fuasai yn yr Eidal yn ddysgybl i Sant Hilarius, esgob Arles yn Ffrainc. Dygwyd ef i fyny gan ei fam yn Henfynyw ( Ŷetus Menevia)-, a diofryd- wyd ei noll amser i addysg gyssegredig. Efe a basiodd yn ddifrycheulyd trwy gyfnod peryglua ieuenctyd; ac urddwyd ef yn offeiriad. Yn fuan ar ol hyny efe a ymneillduodd i Ynys Vecta (Isle of Wight, mae yn debyg, er mai Vectis yw ei benw Lladin); cafodd yno ei addysgu am 37—xin. hir amser gan Sant Paulinus, dysgybl i Sant Garmon, esgob Auxerre yn Ffrainc. Ar ol ei ddychweliad i Gymru, efe a sylfaenodd fynachlog yn Vallis Rosina, a alwyd ar ol hyny Ross. Cafodd bob math o wrthwynebiad gan wr boneddig o bagan a elwid Boia, ag oedd yn byw yn yr ardal hòno; eto daeth y íynachlog i gyflwr blagurog iawn; ac yr oedd Uawer o gyfoethogion galluog yn aelodau ynddi. "Y pryd hwnw," ebai Giraldus Cam- brensis, "yr oedd Eglwys Dduw yng Nghymru yn flodeuog ac yn ffrwythlawn. ^Yr oedd mynachlogydd yn cael eu sefydlu mewn amryw fanau, a chynnulleidfaoedd o ffyddloniaid yn ymgasglu mewn defosiwn dan ufudd-dod Crist. Yr oedd Dewi yn ddrych ao yn esampl iddynt oll. Yr oedd yn addysgu ei blant yng Nghrist trwy ei air, ac yn fwy fyth trwy ei fuchedd. Yr oedd yn addysg i bawb a'i clywai, yn arweinydd i'r crefyddol, yn gynnaliaeth i'r angenog, yn nawdd i'r amddifad a'r weddw, yn dad i'r ieuainc, yn gynllun i'r mynachod, ac yn bob peth i bawb, fel y caffai Duw ei ogorteddu." Mae hen hanes- ydd arall yn rhoi'r darluniad hwn o hono: "Yr oedd tua chwe' throedfedd o daldra, o wynebpryd caruaidd a boddhaol, ac o ymddangosiad urddasol: yr oedd yn' wr gostyngedig a hawdd ymddyddan ag ef; ac yr oedd yn nodedig am hyawdledd ei ymadrodd." Yr oedd heresi Morganiaeth wedi medru ennill ei ffordd cyn hyn i Ynys Brydain. Tua chanrif cyn hyn, gosodasid attalfa arni; ond yn nechreuad y chwechfed ganrif hi a ennillodd nerth adnewyddol. Yn y flwyddyn 519, ym'gasglodd cym- manfa o esgobion, abadau, a gwýr eglwysig