Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. Ct{ta <terft|rìẁm. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI.' "A GAIB DUW YN UCHAF." RHIF. 156. RHAGB^YR, 1869. Cyf. 13. PREGETH, A draddodwyd Awst 5, 1869, gan Trophimus. "Os aroswch ynof Fi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynag a ewyllysioch, gofynwch, ac efe a fydd i chwi."—Sant Ioan xv. 7. Un o brif nodweddiadau ein bendigedig Iachawdwr oedd ei diriondeb tosturiol tuag at y rhai a fyddent yn isel eu teimladau ac mewn cyfyngder ysbryd. Nid yn unig yn nyben mawr ei ddwyfol anfoniad yn gyffredinol, ond hefyd yn nygwyddiadau Úai ei fywyd cariadlawn, ymddangosai fel pe yn anghofio ei Hun er rawyn dangos ei gydymdeimlad ag ereill, ac "wylo gyda'r rhai oedd yn wylo." Mae genym yn y pennodau hyn esampl ddysglaer o'r dymmer nefolaidd hon yn ein Gwaredwr mawr. Mae'r bennod hon, a'r un sydd yn ei blaenori, a'r un sydd yn ei dilyn, yn cynnwys ei ymddyddan di- weddaf â'i ddysgyblion, y rhai oeddynt yn y trallod a'r galar mwyaf o herwydd ei fod ar ymadael oddi wrthynt. Yr oedd Efe wedi lledgrybwyll y pcth wrthynt yn gynnil ar achlysuron blaenorol, yn ol fel y gallent hwy ddyoddef clywed y newydd trwm. Ac yn awr, ar ol iddo draethu'r mater wrthynt yn gyflawn ac yn eglur, yr oedd tristwch wedi llenwi eu calonau. Ac yn y pennodau hyn, ei bryder mawr yw dyddanu eu meddyliau galarus, heb braidd grybwyll dim am y dyoddefaint yr oedd Efe ei hun i fyned trwyddo ym mhen ychydig oriau. Ac ym mhennod y testyn, gan fod eu tristwch yn tarddu oddi ar yr wybodaeth y byddai iddynt, ar fyr, golli presennoldeb Cyfaill mor gariadus a gwerthfawr, yng nghwmni yr Hwn yr oeddynt am o ddeutu tair blynedd a han- ner wedi bòd yn derbyn cymmaint o addysg ac yn mwynhau cymmaint o ddyddanwch, mae Efe yu eu cysuro trwy ddangos.iddynt, 45—xni. er ei fod ar ymadael â hwynt, eu bod hwy ac Yntau er hyny yn gyssylltedig â'u gilydd yn y fath undeb nas gallai absen- noldeb corfforol mo'i ddattod na'i wanychu. Ac y mae Efe yn eglurhau yr undeb hwn trwy ei gymharu à'r undeb sy rhwng y winwydden a'r cangenau—undeb bywiol, trwy'r hwn mae nerth a nodd y gwreiddyn yn cael ei gyfranu iddynt i'w galluogi i ddwyn ffrwyth. Ac y mae yn dywedyd, os parhaent hwy, fel cangenau, i aros ynddo Ef, y wir Winwydden, y byddai i'r undeb rhyngddynt barhau yn ddiysgariad, er y byddai Efe yn absennol oddi wrthynt o ran ei bresennoldeb corfíbrol; ac am hyny y byddai i'w gwir gysur gael ei ychwanegu yn hytrach na'i leihau, gan yr anfonai" Efe yr Ysbryd Glân atynt i'w dyddanu, ac i'w galluogi i ddwyn ffrwyth lawer er gogoniant y Tad, i fyuwes yr Hwn yr oedd Efe ar fyned; ac y byddai yr Ysbryd hwn^yn foddion i ddwyn iddynt o'r nef yr holl fendithion a ofynent am danyntçan y Tad yn ei enw Ef, eu Hiach- awdwr. Wedi eich harwain, fy mrodyr, fel hyn at y testyn, mi a wahoddaf eich sylw at dri o bynciau sydd i'w casglu o hono. Yn gyntaf, cyflwr y credadyn; mae yn aros yng Nghrist. Ỳn ail, y prawf o arosiad y credadyn yng Nghrist; bod geiriau Crist yn aros ynddo Ef. Yn drydydd, y fendith ag Sydd yn tarddu o hỳn; "beth bynag a ewyllysioch, gofynwch, ac efe a fydd i chwi." I. Cyflwr y credadyn; mae yn aros yng Nghrist: "os aroswch ynof Fi." Nid