Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. €rfm (torfyrìŵa "YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN ÜCHAF." Rhif.290. CHWEFROR, 1881. Cyf. 25. CYFLAWNDER YR AMSER. Gal. iv. 4. Saif yr ymadrodd uchod yn yr adran hòno o'r epistol lle y cyferbynia'r apostol sefyllfa "etifeddion" Duw dan yr Hen Destament â'u sefyllfa dan'ý^Newydd. Dan yr Hen eti- feddion mewn addewid oeddynt— plant dan eu hoed; dan y Newydd etifeddion wedi dyfod i feddiant o'r ystâd.ydynt. Dan yr Hen nid oedd dim rhagor rhwng y mab a'r gwas, " er ei fod yn Arglwydd ar y cwbl;" dan y Newydd y mae ammodau'r gweithredoedd mewn grym, a'r eti- fedd wedi derbyn ysbryd y mabwys- iad, "drwy yr Hwn yr ydym yu llefain, Abba Dad." Y weithred a ddwg y cyfnewidiad hwn oddi amgylch yw ymgnawdoliad y Messiah, a'r adeg y cymmerth le a elwir yn y testyn yn gyfawnder yr amser. Nis gallwn ni gyflawn amgyffred ystyr yr ymadrodd cynnwyefawr hwn. Nis gallwn ddeali na deongli pa ham y gwnaeth y cynghor dwyfol sefydlu terfynau yr oesoedd yn nyddiau Augustus Csesar a Herod frenin. Diammheu fod. llawer o resymau am hyn, y rhai a arosant yn guddiedig i blant dynion. 6—xxv. Ond wrth edrych ar gyflwr y byd y pryd hwuw, ac ar y cwrs o ddysg- yblaeth yr aethai drwyddo, y tu allan yn gystal a thu fewn i'r Eglwys Iuddewig, nis gallwn lai na chydna- bod fod doethineb rhagluniaeth wedi bod yn parotoi rhan helaeth, a'r rhan fwyaf ddiwylliedig, o ddynoliaeth i dderbyn eu Gwaredwr. Ni pherthyn i ni wybod pa ham na ddaeth " Had y Wraig i yssigo pen y sarff" yn ebrwydd ar ol rhoddiad yr addewid, na pha ham y gadawodcl Duw i bedair mil o flynyddoedd fyned heibio rhwng ei rhoddiad a'i chyfiawniad. Ond ymddengys i ni fod yn naturiol credu fod cwrs o hyfforddiant yn angenrheidiol er dysgu dyn (1) ei fod wedi gwrthgilio oddi wrth Dduw, ac (2) nas gallai adferyd ei hun i'w gyfiwr cyntefig. Rhaid oedd gwneyd y byd yn addfed mewn profiad o'i anallu ei hun, ac mewn dysgwyliad am iachawdwriaeth Duw. Y wers ddyblyg ag oedd eisieu ei dysgu i'r ddynoliaeth cyu dyfodiad ei Gwaredwr oedd, " Ti a'th ddiuystr- iaist dy Hun, ond ynof Fi y mae dy gymhorth." Hwyrach y gofynir gan rywun,