Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. (ítjfrrs (Cflirfip:ìŵin. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEÜNl." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 291. MAWRTH, 1881. Cyp. 25. YR IATTH GYMREIG. Traethawd buddugol yn Eisteddfod Caerdydd, 1879. Tri pheth ddylai y Cymro ei garu o flaen dira: cenedl y Cymry, defodau a moesau y Cyrary, ac iaith y Cymry. Wrth ystyried y priodoldeb o gadw iaith y Cymry yr ydym yn naturiol yn ei rhanu i ddau ddosbarth. 1. Y fantais i'r Cymry eu hunain. 2. Y fautais i'r byd yn gyffrediuol, yn neillduol i'r genedl sydd yn dwyn cyssylltiad agos â ni. Dywedwyd yn dda gan ieithydd enwog, " Nid yw iaith cenedl yn dreftadaeth fawr yn uuig, ond y mae yn ganolbwynt bywyd cenedlaethol. Pan mae cenedl," meddai, " yn colli ei hiaith y mae hefyd yn colli ei nod- weddiadau, ac y mae yn cael ei llyncu i fyny yng nghenedligrwydd y llwyth sydd wedi ei gortbrechu a dyhnddo yr iaith." Yn y goleu hwn y mae yn rhaid i ni edrych ar ddiffoddiad yr iaith Etruscan gan y Rhufeiniaid. Yr ydym yn cael ceuedl yn ddigon gaìluog a gwareiddiedig i godi dinas- oedd o'r fath adeiladwaith cadarn, fel y mae eu muriau yn sefyll hyd y dydd hwn yn gyfan, yn cael ei llyucu i fyny gan genedl arall, fel nad oes dim o'i hiaith ar gael ond ychydig o gerfiadau aueglur, pan mae eu 11—XXV. cenedligrwydd wedi dyfod yn beth cynhanesyddol. Ar y Uaw arall yr ydym yn cael yr Hebreaid yn cyf- anneddu mewn cwr dinod o Syria, ychydig mewn nifer, mewn cyferbyn- iad i boblogaeth y rhan arall o'r wlad, yn cadw gyda manylrwydd eu cenedligrwydd a'u nodweddiadau o oes i oes heb gael eu Uychwino gan genedligrwydd y rhai sydd yn aml- ach na hwy. Gorchfygwyd y genedl fechau hon drachefn a thrachefn, a'i harwain i gaethiwed, ac yu ol arfer rhai concwerwyr yn cael eu gosod fel gwladychwyr mewn rhanau o wled- ydd eu goichfygwyr. Er y cwbl ym- lynent wrth eu hiaith, ac y mae eu cenedligrwydd yn parhau yr un hyd nes i amgylchiadau oddef iddynt ddychwelyd i'r llain gul o dir ar lan y môr ag sydd yn gartref iddynt. O'r diwedd caethgludwyd y rhan fwyaf o honynt, a chollasant drwy. eu hesgeulusdra yr unig dreftadaeth na fedrai eu concwerwyr eu dwyn oddi aruynt, ac wedi colli hon yn eu tro4 collwyd hwythau. Y mae hanes y gweddill yn hollol wahanol. Y mae deg o ddeuddeg llwyth Israel wedi myned, a dim ond dau ar ol;