Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 115. IONAWR, 1845. Cyf. X. ANNERCHIAD AT DDISGYBLTON Y GAU-ATHRAWON. Anwyl gyd-wiadwyr, a'm cenedl yn ol y cnawd ; wrth sylwi ar drn- enusrwydd eich sefyllfa dan lyw- odraeth y gau-athrawon, nis gallaf lai na theitnlo yn ddwys drosoch ; canys diammeu gennyf mai chwi yw y dosparth truenusaf o ddynioti ar wyneb yr holl ddaear, gan eich bod yn rhwym yn llyffetheiriau a maglau y gau-athrawon, fel y dywed yr Apostol, yn blantos yn bwhwman, ac yn cymmeryd eich cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoc- ced dynion, trwy gyfrwysdra i gyn- llwyn i dwyllo, er mwyn gwneuthur marsiandiaeth o honoch ; canys fe ddywed Petr, ' Eithr bu gau-bro- phwydi hefyd ym mhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinystriol. A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, o herwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd; ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneu- thur, y gwnant farsiandiaeth o hon- och/ Paul hefyd a ddywed, ' A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi ; a'r rhai gochel di.—Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybod- aeth y gwirionedd. Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd ; dynion o feddwl llygredig, yn anghymmeradwy o ran y ffydd/ A thra y parhaoch chwi i'w credu a'u cynnal, ni pheidiant â'ch twyllo; canys yn wir, meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Am hynny, er mwyn eieh cyrph a'ch eneidiau, os ydych yn credu fod y Bibl yn Air Duw, ac yn rheol y Cristion, byddwch yn foneddigaidd, fel y Bereaid gynt, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau yn ddi- ragfarn drosoch eich hunain a yw y pethau hyn felly ; ac ond i chwi wneud hyn yn deg, sicr wyf y can- fyddwch eu twyll ; canys y mae yr holl Ysgrythyr wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Duw, ac yn fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i ger- yddu, i hyfforddi mewn cyfìawnder, fel y byddo dyn Duw yu berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. Ac na feddyliwch mai rhyw gorph tywyll, anliawdd ei ddeall, yw y Bibl oll, fel y mynn eich hath- rawon i chwi gredu, er mwyn eich twyllo. Mae yn wir fod ynddo rai pethau tywyll, nad yw yn perthyn i ni eu gwybod ; megis cadwedigaeth babanod, arfaeth dragywyddol, eth- oledigaeth bersonol, &c.; ond y mae pob peth perthynol i ddyled- swydd y Cristion, mor amlwg yn y Bibl ag sydd ddichonadwy i iaith ac ymadroddion yr Yspryd Glân eu