Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 118. EBRILL, 1845. Cyf. X. O! FY MAB! Mynwent Llywel, o holl lan- nerchau y marwolion a welais erioed, ydyw yr unig un o lioll fangreoedd y bedd y mae fy meddwl wedi gor- phwyso ynddi, ac yn gydgymmysg â'i phriddellau ydymunwn i'm llwch aros hyd ddatguddiad meibion Duw, pan agorir dorau eu carcharau, y rhyddheir hwynt o holl lyffetheiriau eu caethiwed, ac y gosodir hwynt mewn meddiant o'r deyrnas a ba- rottowyd iddynt gan eu Harglwydd er dyddiau tragywyddoldeb. Mac- pelah gyssegredig i mi mwyach fydd Mynwent Llywel; oblegid ni allaf fyued heibio i'r llannerch hon, nac edrych ar ei gwyrddlesni twmpath- og, heb fod y gobeithion mwyaf hy- derus yn nofio yn fy mynwes, y bydd i ragluniaethau y Duw Goruchaf drefnu amgylchiadau fy ymadawiad â'r fuchedd hon yn y fath fodd, fel mai ym Mynwent Llywel y bydd tý fy hir artref,i gydgymmeryd yr huu fawr wrth ochr fy anwylaf fab, yr hwn yn awr sydd guddiedig yn ei phriddelloedd. Rhyfedd fel y mae mannau dieithriol, oblegid amgylch- iadau neillduol a gymmerant le yn ystod bywyd, yn dyfod yn gyssegr- edig i ni, blant y tymhestloedd. a'r tywydd garw! Mynych, yn ddiau, y bu meddwl a myfyrdod Abraham yn crwydro ac yn aros ar ben Mo- riab, lle y cyfryngodd y nefoedd mewn modd neillduol yn ei achos, u'r lîe hefyd y gwnaed ei enw yn anfarwol, fel y pennaf o ffyddloniaid Duw y nefoedd ar y ddaear! Ond er pob gwaredigaethau a weithredir gan y nefoedd tuag attom, er pob gweinyddiadau o eiddo yr orsedd fry tuag attom, ac'er pob twmpathau y tarawodd .ein traed wrthynt ar Iwybrau geirwon yr anialwch ; ac er yr holl fannau y'n hysgydwyd weith- iau ar yr ystormydd, y'n curwyd gan y cenllysg, y'n harchollwyd gan ein gelynion, neu y gwenodd y nefoedd. arnom, neu y tywalltwyd. olew a gwin i'n harchollion, neu y cawsom achosion i ganu yn y nos ; y mae llannerch y marwolion yn neillduol yn nofio yn ein meddyliau, a'r ogofau tywyllion hynny y dodasom ein han- wyliaid i gadw ynddynt, yn llettya yn ein cofs ac yn rhodio gyda ni ddydd a nos, yng nghwsg ac yn effro ! Er y trosedd mawr yn Eden, nid oes ond y gofídiau a meddyliau archolledig yn dilyn plant y liwch ; oblegid gyda bod yr haul yn gwas- garu ei belydron mewn llonder dros ein hanneddau, gorchuddir ef gan gwmmwl tywyll; fel, yn lle bod yn bod yn blant y dydd,yn edrych ar brydferthion y greadigaeth, byddwn yn blant y nos, yn rhodio yn oblyg- edig mewn llenni tywyllion, ac yn cwyno yn dost am oleuni ysplenydd