Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 119. MAI, 1845. Cyf. X. DOSPARTH YMARFEROL YR EGLWYS.—(0 tu dal. 44.) Nid oes dim drwy holl oesau y byd wedi bod mor niweidiol i gref- ydd a ffanaticiaeth ; ac ym mhlith yr amrywiol niweidiau a allesid eu crybwyll, ag ydynt yn dwyn per- thynas â ffanaticiaeth, y mae hunan- ymddiried, ac anffaeledigrwydd mewn barn ac ymarferiad crefyddol. Nid oes dira yn iawn gan y ffanatic, dim yn ei le, dim yn briodol, na dim yn grefyddol, oni fydd efe a'i fys ynddo, yn ei lywodraethu ac yn ei reoli i raddau, a chael dangos ei hun, ei fod ef yn ddyn o bwys, gan nad pa beth, a chan nad pwy a fyddo allan o'r golwg. Ffanatic- iaeth yn ddiau ydyw y prìf achos o'r elyniaeth a'r ffyrnigrwydd mawr ag sydd ym meddyliau a mynwesau llawer iawn o bobl yn erbyn ffnrf o wasanaeth dwyfol; ac y mae y rhywiogaeth hon o ffanaticiaeth yn tarddu yn bennaf oddiar falchder calon a Phariseaeth, sef meddwl bod eu baldardd hwynt yn rhagori mewn purdeb a pherffeithrwydd ar bob cyfansoddiadau, a'u gweddiau yn sancteiddiach, ac yn fwy cym- meradwy gan y nefoedd, nag y di- ehyn i unrhyw ffurf o weddiau fod. Addoliad Duw mewn symlrwydd a duwiol-frydedd ydyw y peth pennaf mewn golwg gan Eglwys Loegr, megis ag y mae y Llyfr Gweddi Gyffredin yn profi yn dra eglur. Xn hyn y mae Eglwys Loegr yn un farn â'r Eglwys fawr o'r dechreuad hyd yr awr hon ; oblegid y maé Ysgrythyrau y Testamentau Heu a Newydd yn cyd-dystiolaethu, mai addoli y Duw byw ydyw prif or- chwyl yr Eglwys filwriaethus ar y ddaear, a'r Eglwys orfoleddus yn y nef. Rhy fach o bwys a osodir yn gyffredinol ar wasanaeth addol- iadol Arglwydd y lluoedd; ac yn fynych iawn gwelir pethau o bwys líai wedi cael eu gosod yn ei le, a mwy o zel o lawer yn cael ei ddangos dros y pethau llai pwysig hyn, na thros y pethau ag ydynt o bwys tragywyddol i eneidiau byth. Y mae yn alarus meddwl fel y mae addoli yr Arglwydd yn cael ei es- geuluso gan yr amrywiol enwadau ymneillduedig ; a chan fod yn eu plith amryw ddynion o brofiad, o wybodaetb, ac o dduwioldeb mawr yn ddiamheuol, y mae yn rhyfedd na byddai i rai o'r dynion hyn ym- gynnyg at ddiwygiad buan a chyff- redinol yn y dosparth addoliadol yn y gwahanol gapelau ; oblegid wrth giìio oddiwrth Wasanaeth yr Eg- lwys, y maent braidd wedi colli eu golwg yn hollol ar addoliad Duw y lluoedd. Y mae Sectariaeth wedi cael ei Uyngcu i fynu yn hollol gan bregethu ; a'r pregethu a'r pregeth- wyr ffolaf yn eu ph'th braidd ydynt