Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 120. MEHEFIN, 1845. Cyf. X. DOSPARTH YMARFEROL YR EGLWYS.—(0 tu dal. Ul.J Ychydig iawn ydyw y cyfîawnder a'r chwarae teg a wneir â'r Eglwys gan ei gelynion a'i gwrthwynebwyr; ac nid ydynt y dadleuon a ddygir ym miaen yn ei herbyn, fynychaf, ond gwaradwyddiadau a gwarth- ruddiadau, â pha rai y tywyllir llygaid y werin ; fel ag y mae cry- bwyl) y geiriau ' Eglwys Sefydledig' hraidd yn ddigon i beri i ryw fath o bobl lesmeirio yn yman. Y mae yr Ymneillduwyr, gan mwyaf, wedi myned i eithafion chwerwder yn ei herbyn ; wedi myned mor bell yn eu digasedd a'u rhagfarn tuag atti, fel y pleidiant anffyddwyr, cyfeiliorn- wyr, Pabyddion, a phawb ag ydynt wedi diweinio eu cleddyfau, ac wedi trefnu eu bwäau yn ei herbyn. Yr ydyrn yn gweled pethau â'n llygaid, ac yn clywed pethau â'n clustiau, amgen o'r braidd y gallasem gredu pethau a gymmerant le yn y ped- werydd canrif ar bumtheg. Buasai yn annichonadwy gan Dr. Doddridge, Matthew Henry, ac eraill o oleu- adau yr Independiaid, gredu y gwawriasai amser ar Independiaeth, pryd y buasai Cyhoeddiad Misol perthynol i'r enwad yn darlunio yr Archesgob Cranmer fel godinebwr, a'r dyn mwyaf ei dwyll a'i hocced braidd ag fu yn y byd erioed ; ond y mae y 'Diwygiwr' Independaidd wedi gwneuthur hyn. Ond yraa iawn ydyw crybwyll bod y Bedydd* wyr, y Methodistiaid, a'r Wesiey- aid heb gyrhaeddyd yr eithafnod hwn o elyniaeth a rhagfarn, a bod rhai o enwogion y sectau a gry* bwyllwyd, mewn siarad âg ysgrif- ennydd y llinellau hyn, wedi dangos y ffieiddiad a'r atgasrwydd mwyaf at y cyfryw ysglandriad Independ- aidd. Pwy rai o'r Independiaid, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, a fuasent yn credu bod adeg wrth y drws, pryd y buasai Golygydd un o'u Cyhoeddiadau Misol, ac un o'u gweinidogion arddeledig, yn cy- ìioeddi mai y Pabydd mwyaf ffyrnig, ac mai gelyn mwyaf anghymmodlon y Ffydd Brotestanaidd, yn yr Iw- erddon, ydoedd y dyu addasaf i fod yn Brif-Weinidog Prydain Fawr? Ond y mae Golygydd y Diwygiwr Indepenaidd wedi gwneuthur hyn! A chymmeryd pob peth gyda eu gilydd, A ydyw zel a phenboethni ein Hymneillduwyr yn erbyn yr Eglwys ddim wedi gyrru lawer yn rhy bell yn ei herbyn ? A ydyw crefydd nifer mawr o'n Hymneill- duwyr ddim yn gynnwysedig braidd mewn gwaradwyddo, a bod yn eithar gelynol i'r Egìwys ? Ac a ydyW crefydd,profiad,ffrwythau,agweith- redoedd Cristionogol ein Hymneill- duwyr yn fwy efangylaidd a nefol, yn eu cynniweirfa elynol yn erbytt