Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 125. TACHWEDD, 1845. Cyf. X. Y DIWEDDAR BARCHEDIG WILLIAM BRUCE KNIGHT, M. A., DEON LLANDAF. Nid yn fynych y mae yn digwyddo i ran hanesydd i lunio bywgraphiad i uu ag y byddo ei goffadwriaeth yn wir deilwng o gael ei chyhoeddi i'r oesau dyfodol ; a'r canlyuiad o hynny ydyw, bod y dosparth hwn o lëenyddiaeth fynychaf yn cynnwys mwy o swn nag o sylwedd, ac yn faes digynnyrch iawn gyda golwg ar dywysennau meddyliol ac adeil- adol i'r darllenydd. Ond am y gwr enwog ag sydd yn awr dan ein sylw, yr oedd uwchlaw canmoliaeth ; o herwydd mewn duwioldeb, ffyddlon- deb gweinidogaethol, dysgeidiaeth, Hafur, boneddigeiddrwydd, hunan- ymwadiad, gostyngeiddrwydd, cym- mwynasgarwch, a phob rhinweddau eiaill ag ydynt yu ardduniant i'r natur ddynol^ rhagorai Deon Llan-J daf, a disgleiriai fel goleuni o'r maintioli mwyaf, yng nghyflawniad ei holl ddyledswyddau, ac yn ei holl berthynasau â'r bywyd hwn ac â'r fuchedd sydd i ddjfod. Ni pher- tbynai efe i'r nifer hynny o ddynion da, doniol, a duwiol, ag y mae y Duw Goruchaf yn eu rhoddi yn ei diriondeb a'i drügaredd i'r byd braidd ym mhob oes; oblegid yr oedd efe yn un o'r personau anaml hynny a roddir gan yr Arglwydd yn awr ac yn y man, er mwyn llanw rhyw fylchau neillduol, ac er mwyn 2U cyflawnu rhyw ddiffygion neillduol, a ofynnant am gymmeriadau, am- gyffredion, a doniau anarferol. Nid yn gyffredin y ceir dyn i gyflawnu gorchwyl dyn, a hynny oblegid rhyw ddiffygion mewn meddyliau, rhyw segurdod, rhyw ddifatterwch, a rhyw esgeulusdra, fel braidd y gwnant ddim a gymmeront mewn llaw yn effeithiol ; ond am ddynion cyffelyb i Williah Brüce Knight, nid yn unig gwnant waith llawer o ddynion, ond cyflawnant eu gor- chwylion mewn perffeithrwydd, a bydd argraph o foddlonrwydd ac ewyllys da Duw ar eu holl lafur. Yr ydym yn hyspys o amryw a aeth- ant drwy lifeiriant yr Iorddonen, y cadwyd swn roawr am danynt yr ochr hyn;—haneswyr yn eu Hiwio yn hardd â'r ysgrifell, y beirdd yn canu eu clodydd mewn iaith ddyr- chafedig, a chwynion dolefus ar ea hol, megis pe buasai y byd yn an- alluog i ymgynnal ar eu hol hwynt. Fel hyn y digwydda yn fynych i golofnau gael eu cyfodi i ddynion ar lann yr afon, ac etto heb braidd ddim o werth sylw ynddynt, na dim 0 werth sylw wedi cael ei adael ar 01 ganddynt ar ymylau y llwybrau a deithiwyd ganddynt yn y fuchedd hon. Ni all unrhyw olygfa fod yn fwy prydferth nag edrych ar y cyf-