Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATJL. CYFRES NEWYDD* "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." •'A GAIR DUW YN UCHAF." Hhif. 41. MAl, 1853. Cyf. IV. BALCHDER A CHENFIGEN. ' Rhag ìddo ymchwyddo, a syrthio 3^taí£lltíet a chenfigen ydynt brif ^** bechodau damniol yr holl oesau, er pan syrthiodd y dyn cyntaf yn Eden hyd yr awr hon ; ac yn wyneb y difrodiadau a'r dinystriadau ag a Wnáed, ac a wneir gan y ddau bechod damniol hwn, ym mhlith plant dynion, y mae yn rhyfedd na baent yn eu go- chelyd, ac yn gweddio yn fwy taer ar Dduw Hollalluog am nerth i'w gwrth- sefyll, a'u hoeiio wrth ei Grôg ef. Y ttiae Balchder a Chenfigen, yn berthyn- asau mor agos i'w gilydd, fel mai gor- chwyl anhawdd ydyw eu gwahaniaethu, ac i nodi allan eu priodolderau per- thynasol, fel ag i benderfynu pa un o'r ddau ydyw yr henaf a'r gwaethaf. Mae y Bardd anfarwol Milton, yn ei Brydd- est anfarwol£ Coll Gwynfa,' neu y Pa~ radise Lost, yn rhoddi darluniad byw- iog iawn o Falchder ym mhlith Eugyl boreuol y nef, a'r ' Ser y Boreu' hyn- ny a chwareuent mor danbaid yn y ff'ur- íafen fawr ; a'r hwn bechod fu yn achos o ddymchweliad Satan a'i fyddin 1 r dyfnderau, Ue yr arosant mewn ca- dwynau adamantáidd hyd farn y dydd ttiawr;— ' The infernal Serpent. He it was, whose guile Stirr'd up with envy aud revenge deceived The mother of manúind, what time his pride Had cast him out of heaven, with all his host Gf rebel Angels ; by whose aid, aspiring To set himself in glory above his peers, He trusted to have equall'd the most High, « he oppos'd,—' Nid Milton sydd wedi dyfeisio yr achos o ddamnedigaeth diafol, ac nid "rych-feddwl barddonol ydyw, canys y ttiae dynion sanctaidd Duw a lefarasant dan ysprydoliaeth, gwedi awgrymmu yr un peth yn yr hen oesau. Yr ydym yn cael hefyd, bod holl ddrygau a ni- ^eidiau Balchder a Chenfigen, gwedi ymollwng yn un llifeiriant mawr i'r i ddamnedigaeth diafol."—St, Paul. byd hwn, yn fuan ar ol creadigaeth y dyn cyntaf Adda ; ac y mae y gwen- wyn íyth yn parhau yn ei effeithiau marw'ol ym mhob gwlad, ym mhob oes, ac ym mhob cenhedlaeth. Y mae Balchder gwedi myned mewn i'n natur a thrwy holl beirianwaith ein dynol- iaeth, ac yr ydym megis gwedi sugno y gwenwyn gyda llaeth bronnau ein mammau. Craifer ar y maban gwedi iddo ddyfod yn blentyn i sylwi, a gwelir yn amlwg ei fod gwedi sugno y gwenwyn hwn, yn y pwys y mae yn roddi arno ei hun, pan fydd ei gorph bychan gwedi ei brydferthu á rhyw addurjiiadau newyddion fyddant yn boddloni ei olygon ef. Y mae yn ym-> sythu, ac yn ymdroi, a dymunai ei fod oll yn Uygaid er mwyn gweled ei hun oddi amgylch o gylch, gan ddisgwyl, a chan dderbyn pob cymmediwiau gweniaethus a roddir iddo, ac ar yr un pryd, canfyddir ef yn ymchwyddo wrth bob gair a roddir mewn ffordd o ganmoliaeth iddo. Y mae efe yn ei addurnion, yn disgwyl i bawb ei weled ; ac ni foddheir ef oni fydd ei dad, ei fam, ei frodyr, a'i chwiorydd, a phawb ag a fyddo yn wyddfodol, yn dwyn offrymmau ewyllysgar ym mlaen i'w haberthu ar allor ei falchder ieuengaidd. Os bydd rhyw blentyn arall yn bresen- nol yn cael sylw, yn cael gair teg, a rhyw faint o ganmoliaeth ; ceir gweled y cymmylau yn ymgasglu dan ei far- godion ; ei amrantau yn ymollwng, ei lygaid yn trymhau, ei wedd yn cyf- newid, a ffrwdo wenwyn anynadrwydd yn torrt allan, fel, pe gellai, y dinysfr- iai y byd, am fod y byd yn sylwi ac yn mawrhau un heb law ef ei hun, Mae y Balchder greddfol hwn ag sydd gwedi ei gyd-wau â natur dyn, yn glynu yn ataelgar wrth bawb; yn y