Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE HAUL. CYFRES NEWYDD* «YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI.»» "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 57. WÎEDI, 1854. Cyf. V Y CAM ANNGHYWIR YN ANGHEUOL. (tt y byd yn orlawn o bob pro- * fedigaethau, canys y mae y drwg yn preswylio ynddo, yn gystal ac yng nghalon pob dyn wrth natur. Mae Hwybr y daith drwy y fuchedd hon, er nad ydyw ond llwybr byrr iawn, yn 'lawn o droion, ac yn llawn o beryglon °, bob natur a rhywogaethau. Äc i'r u'ben i ochelyd tramgwyddiadau di- nystriol y daith, nid oes dim yn well nag ymdrechu argraphu crefydd mor *ore ag y gellir ar y meddwl ieueng- aidd; a hon ydyw y ddarpariaeth ,. yfol gyferbyn a chadw dyn, megis 0 1 febyd i'w fedd, ar lwybr ei ddyled- ^vJ'dd. Nid dyfais ddiweddar, ac nid uyfais a gynnyrchwyd gan benboethni 0es nac oesau, ydyw hon, ond gorchym- yn yr orsedd fawr a bendigedig, yn y dadguddiad a roes yr Hollalluog *Jduw o'i ewyllys i deulu Adda. Gall ^ynion ífurfio drychfeddyliau; gall rynion genhedlu tybiadau, a chynllun- ìo cyfundraethau ; ond o bob addysg, j^ysg crefyddol ydyw yraddasafi'w 'argraphu ar feddwl plentyn ym more ei oes ; a gwybodaeth grefyddol ydyw yp orau i ddyn tu ag wynebu ar ei ? aith drwy fyd ag sydd yn ddychryn- tyd i feddwl am ei brofedigaethau, y^ghyd ag am angheuoldeb y dinystr- vh aU- ^y^d ag sydd gwedi goddiwedd- yi, nifer y dail o'r rhai a gyfeiliornas- *nt oddi ar ÍFyrdd rhinwedd. Yr gwyddor ag sydd gwedi cael ei sefydlu J «g ngoruchwyliaeth Moses, gyd â gol- ™ ar addysg, ydyw argraphu crefydd teddwl plant ym more eu hoes,— u3çV a^^ys&5 ydyw argraphu crefydd " A u ^W^ P*an' ym more eu hoes,— A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn X. ,eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy |aIou- A hyspysa hwynt i'th plant, ; chrybwyll am danynt pan eisteddech yi dy dy, a phan gerddech ar y ffordd, 2 G a phan orweddech i lawr, a phan gy- fodych i fynu. A rhwym hwynt yn arwydd yn dy law ; a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifena hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth." Un o ddibenion y cyfarwydd- yd hwni Israel ydoedd, argraphu mawr- edd ac ofn Duw ar feddyliau y plant ym more eu hoes. Y mae hyn yn cael ei gadarnhau gan y Psalmydd pan ag y mae yn crybwyll am dystiolaethau y Nefoedd a roddwyd i blant yr Israel; —" Agoraf fy ngenau mewn diareb : traethaf ddammegion o'r cynfyd; y rhai a glywsom ac a wybuasom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meihion, gan fynegu i'r oes a ddel foliant yr Arglwydd, a'i nerth a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel; y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant: fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid, a phan gyfod- ent, y mynegent hwy i'w plant hwy- thau. Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb annghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynion e.f; Ac na byddent fel eu tadau yn genhedl- aeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn gen- hedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hyspryd ffydd- lawn gyd â Duw." Ygwr doeth, yn ymwybodus o ddylanwad argraph grefyddol ar y meddwl ieuengaidd, a ddywedai,—" Hyffordda blentyn ym mhen ei ffordd ; a phan heneiddia nid ymedy a hi." Ac mewn attebiad i'r gofyniad—" Pa fodd y glanhà llangc ei lwybr?" y mae y Psalmydd yn atteb,—'' Wrth ymgadw yn ol dy air di." A chan farnu mai argraph gref- yddol ydyw yr argraph oreu ar y