Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

337 ADGYFODIAD CRIST. *Mai os cyftesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi et'o feirw, cadwedig fyddi.'—Paul. Dymunwn adgoffa eto i'n darllenwyr mai pregethu Crist yn ei esiampl, ei athrawiaeth, a'i iawn, mewn cysylltiad â'i adgyfodiad fel prawf o wirion- edd y cwbl, yw yr hyn y dadleuwn drosto o hyd, ac nid gwneyd yr adgyf- odiad ar ei ben ei hun yn brif bwnc athrawiaeth. ' Credu yn y galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw' ydyw credu fod yr hyn oll a ddjrẃedoad efe, ac a ddywedir am dano, yn y Testament Newydd yn wirionedd, a bod yr hyn a wnaeth ac a oddefodd efe yn ddidwyll, a chynieradwy gan Dduw. Wedi sôn cymaint mewn rhifỳn blaenorol am anghysonderau hanes yr adgyfodiad, meddyliwn mai buddiol yw gosod ger bron ein darllenwyr rydd-eiriad talfyredig o'r hanes, fel y mae gan y pedwar efengylwyr, wedi ei gwneyd yn un hanes mor gyson a chywir ag y gallwn. Mae yr hanes mewn rhan ar gynllun Dr. Townson. * Wedi bradychu yr Iesu a'i ddal, ac iddo gael ei gyhuddo, Mat X3ivi- ei watwar, a'i gondemnio, efe a groeshoeliwyd yn y dienyddle LucCxxirxxIii cyhoeddus ger Jerusalem, yr hwn a elwid Golgotha, neu le y joau Xviiì. xix! benglog, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol. Prif gydnabod ein Harglwydd, y rhaî a'i canlynasant ef i'r dienyddle, a safasant o hirbell yn edrych arno yn cael ei Mat. xxvü. 55, groeshoelio, ac yn dystion o'r arwyddion a'r rhyfeddodau a 56# ganlynasant hyny, megys y gwnaeth llawer o wragedd hefyd, Marcxv.40,41. y rhai a ddaethant gydag ef i fynu i Jerusalem, nifer o ba rai x a weiniasant iddo o'r pethau oedd ganddynt yn Galilea (Luc viii. 2.) ac ar ei daith ddiweddaf i'r ddinas: yn mysg pa rai yr oedd Mair Magdalen, Mair gwraig Cleophas, a Salome mam lago ac Ioan, meibion Sebedeus. Ei gyfeillion gan mwyaf a edrychent arno o draw, gan ym- ofidio a galaru o'i blegid: ond rhai o honynt er hyny a dynid gan rym cariad a thosturi at droed y groes. Yno yr oedd ei fam ef, a'i chwaer hi, s'ef gwraig Cleophas, Mair Magdalen, ac Ioan y dysgybl anwyl. Y'r Iesu yn edrych i lawr oddiar y groes, ac yn gweled ei fam a'r dysgybl anwyl yn sefyll wrth droed y groes, a orchym- ynodd ei fam i'w ofal ef. Ac o'r awr hono, gan ei harwain hi Ioan xix. 25. ymaith o'r fath olygfa anoddefol i deimladau mam, Ioan a'i 26, 27, 35. cymerodd hi i'w gartref, ac a'i gadawodd yno dan ofal ei fam yn ei chyfyngder mawr, ac a ddychwelodd ei hun yn ol at y groes. Ac o'r chweched hyd y nawfed awr, sef o hanner dydd hyd dri o'r gloch brydnawn, y diwrnod hwnw y bu tywyllwch ar j^. yr holl ddaear; a thua thri o'r gloch y llefodd yr Iesu o'r Jq,™!" 48i tywyllwch, Fy Nuw, fyNuw, paham y'm gadewaist?—Ymae syched arnaf. Ac wedi cael ei ddiodi â finegr, efe* a lefodd * Gwel ' A Discourse on tho Evangeîical History,from the lnterment to the Ascension cf 6ur Lord.' By Thomas Townson, D.D. Oxford, 1793. Hydref. 2 h