Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD, Y JESUITIAID. Dywed y Pregethwr fod pob peth yn deg yn ei amser; ae os nad ydym yn camgymeryd yn fawr, nid ydyw ein hysgrif bresennol yn anamserol. Mae yn debyg fod nid yn unig egWyddorion a hanes y Jesuitiaid, ond hyd yn nod eu henw, yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o'n cydwladwyr. Ond os ydynt feliy hỳd y pryd hwn, nis gallant barhau felly yn hir ; oblegid os na chawn ni fel cenedl wybod drwy brofíad am gyfrwysdra a dichellion yr urdd hon, nís galiwn fod yn ddyeithr i'w gweithrediadau o'n hamgylch, y rhai sydd yn awr yn tynu sylw holl gyfandir Ewrop. Y mae Ffrainc, Swit- zerland, a Germany, yn ymdrech yn galed â'r urdd. Miloedd lawer o drig- olion y gwledydd hyn ydynt yn dychrynu rhagddynt fel rhag y geri marwol; ac nid yn ddiachos ychwaith, oblegid y mae eu dyfodiad hwy i wlad yn ar- wydd sicr fod marwolaeth foesol a dëallol ar ddyfod yno hefyd. Nid rhaid ond edrych i Tahiti i gael prawf o hyn. Onid ydyw y baradwys hono wedi ei throi ganddynt, fel ruewn un dydd, yn ddiífeithwoh anghyf- anneddol ? Yr ydym wedi cael tystiolaeth unwaith ac eilwaith o India y Dwyrain, eu bod hwy yno fel pla moesol, yn bwgwth pob rhinwedd a da- ioni â marwolaeth. A phe na buasai y gymdeithas hon ond un o'r pethau hyny a fu ac nid ydynt mwy, buasai yn dra theilwng o'n sylw fel un o ry- feddodauy byd meddyliol—y gyfundrefn gywreiniaf a ddyfeisiwyd erioed ; cadwynau yr hon sydd yn rhwymo yr enaid, yn dwyn yr ysbryd a fwr- iadwyd i fod mor rhydd a'r awyr yr ydym yn anadlu, o dan iau eaeth- iwed ; yn peri iddo blygu ger ei bron, er ei fod wrth wneuthur hyny yn rhoddi y deall, y serch, y gydwybod, yr ewyllys, a'r cof, yn aberth gwir- foddol wrth ei thraed, gan dyngu a chyflawni mai ei heiddo hi a fyddant byth mwy. Yn mha olwg bynag yr edrychwn ar yr urdd, y mae yn un o'r rhai rhy- feddaf a fu erioed. Yn ei llwyddiant yr oedd hi heb ail, ac yn ei hadfyd yr oedd hi ei hunan. Wcithiau yn cael ei chabîu, bryd arall ci chlodfori ; anrhydeddir hi heddyw gan freninoedd, y fory bydd yr un breninoedd yn ceisio ei difodi. Ond un ífunud iddi hi ydyw goleuni Uwyddiant, a tliy- wyllwch adfyd; nid yw yn rhyfygu yn y naill, nac yn digaloni yn y llaìl, Cyfaddaswyd llygaid rhai creaduriaid i ddal pelydrau mwyaf tanbaid go- leuni, ac eraill i weled gyda y radd leiaf o hono; ond mae yr eithafion wedi cydgyfarfod ynddi hi. Nid oes yr un dydd yn rhy ddysglaer iddi ganfod ei ffordd, na'r un nos mor dywell nes peri iddi hi golli ei llwybr. Fel deddfau natur, y mae ei gweithrediadau vn ddystaw; ond fel hwvnt v [EBRILL, 1846.] i