Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. COLL GWYNFA. Yr ydym wedi meddwl fwy nag unwaith am ysgrifenu traethawd ar athrylith Milton; ond nis buom hyd yn hyn, ac nid ydym eto, yn meddu ar ddigon o hyfdra i gymeryd y gwaith mewn llaw. Mor bell ag y mae parch iddo yn gymhwysder i draethu am dano, nid ydym yn foddlawn i roddi y blaen i Dr. Channing na Mr. Macauley, na neb arall. Yr ydym yn ei barchu fel dyn cywir, gwrol, dîysgog yn ei ymlyniad wrth egwyddor- ion; yr ydym yn ystyried ei ysgrifeniadau rhyddieithol yn mysg y rhai mwyaf campus yn yr iaith Saesoneg; ac yn enwedig pan ddarllenom ei gyfansoddiadau barddonawl, nis gallwn lai na rhyfeddu fod y fath feddyliau mawrion wedi cael Ue mewn enaid dynol. Bydd ei eiriau yn ein dilyn am ddiwrnodiau fel swn dyfroedd lawer, "fel Üais o dragywyddoldeb." Er cymaint yw ein heiddigedd dros anrhydedd y Cymry, yr ydym yn gorfod ='ieimlo, pe byddai rhagoriaethau yr holl feirdd Cymreig er dyddiau Taliesin wedi eu casglu ynghyd mewn un dyn, na fyddai hwnw yn haeddu ei gystadlu â John Milton. Ond un peth yw teimlo ei fawredd, a pheth arall y w medru dangos ynmhabeth y mae ymawredd hwnw yn gynnwysedig. Y gorchwyl olaf hwn nid ydym yn anturio cynnyg arno: a rhaid i hi ddyweyd na welsom neb arall wedi Uwyddo i'w gyflawni mewn modd boddlonawl. Er hyny, ni ddylid dibrisio y gallu i deimlo fod Milton yn ddyn mawr. Dyma ddawn nad oedd ond ychydig yn ei oes ef ei hun, ac nad yw pawb eto, yn ei meddu. Yr oedd ganddynt hwy ryw esgus, gan eu bod yn byw yn rhy agos ato i'w ganfod yn gyflawn: ond erbyn hyn, nid oes gan neb hawl i son am lênyddiaeth os nad yw yn gwerthfawrogi barddoniaeth Milton. Nis gwyddom am well ffordd i ddyn adnabod ei hun na thrwy eistedd i lawr yn bwyllog i ddarllen " Coll Gwynfa." Os bydd yn blino arno yn fuan, dyna brawf ar unwaith ei fod yn amddifad o chwaeth. Nid yw eto yn alluog i ddosbarthu rhwng y drwg a'r da. Y mae heb erioed agor ei lygaid i weled anian. Ond drachefn, glyned i'w ddarllen trwy bob anhawsder, ac os yw yn rhagori o ran ei gynneddfau ar greaduriaid direswm, fe ddaw mewn amser i weled prydferthwch ac ardderchogrwydd digyffelyb yn yr holl waith: oblegid y mae " Coll Grwynfa " yn un o'r llyfrau sydd yn gwella o hyd wrth ei fynych ddarllen; a dyna y prawf goreu o wir fawredd. Eel pob dyn gwirioneddol fawr, y mtie Milton hefyd, nid yn unig yn traddodi meddyliau mawrion, ond yn gwneyd hyny yn hawdd. Dichon Ionawr, 1850.] B