Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. THOMAS FOULRES. Y mae cofìaint yr hen bererinion a aethant o'r blaen yn adfywiadol iawn ì deimladau y rhai sydd ar eu hol. Trwy gymharu eu llwybr garw hwy â'r Hwybr esmwyth sydd gan bererinion yr oes hon, yr ydys yn cael achos i ddiolch fod ein coelbrenau ni wcdi syrthio mewn lleoedd mor hyfryd. Yn nghofiaint y saint a aethant o'r blaen, yr ydym yn cael hanes bywiol eglwys Dduw, ac yn cael ein cludo yn ol i'w hamserau, a'n trosglwyddo i'r oes hono; ac o ran ein teimladau, fel pe byddem yn byw dwy oes ar unwaith. Bu llawer o dadau—er nad oeddynt yn gyhoeddus iawn—o ddoniau, athrylith, na dysgeidiaeth, eto yn enwog yn y cylch yr oeddynt yn troi; ac am y rhai y mae cofíadwriaethau parchus ar gof a chadw gan yr ychydig sydd weddilledig o'u cofiaint. Ymhlith eraill, clywsom lawer o sôn gan y rhai sydd yn awr yn oedranus, am yr hen dad y mae ei enw ar ben uchaf y dalenau hyn, yr hyn a wnaeth i ni holi yn fanylach a theimlo awydd i gasglu cymaint a allem o berthynas iddo. Yr oeddem hefyd wedi gweled crybwylliadau llod fynych am dano ar hyd cyhoeddiadau y ddau gorff Methodistaidd yn Nghymru ; a thrwy gasglu y cwbl ynghyd, tybias- om y gallesid cyfansoddi cofiant led reolaidd a chyson, ag a fyddai hefyd yn ddyddorol i nifer mawr o ddarllenwyr y " Traethodydd." Gyda hyna o sylwadau arweiniol, ni a syrthiŵn yn ebrwydd ar ein testun. Thomas Foullces,1 gynt o'r Bala, ond yn ddiweddar o FachynUeth, a an- wyd yn y fìwyddyn 1731, yn mhlwyf Llandrillo-yn-Edeirnion, yr hwn sydd yn gorwedd yn nghesail y mynyddoedd rhwng Corwen a'r Bala, ar y tu deheu i afon Dyfrdwy, yn sir Feirionydd. Ei rieni oeddynt amaeth- wyr yn y plwyf hwnw. Wrth edrych yn ol i'r amser hwnw, tua chant a phedair blynedd ar bymtheg yn ol, rhaid penderfynu ar unwaith nad oedd dyffryn Edeirnion a glanau y Dyfrdwy yn hynod am fanteision gwybodaeth gyffredin na chrefyddol; er y rhaid cyfaddef ei bod rywbeth yn well nag y buasai. Yn nechreuad teyrnasiad Elisabeth, nid oedd yr un offeiriad yn pregethu yn esgobaeth Bangor, a dim ond tri yn esgobaeth Llanelwy rhwng ei arglwyddiaeth yr esgob.2 Ond wedi hyny, cododd yn yr Eglwys 1 Nid oes odid yr un enw ag y mae cjmaint amrywiaeth yn y modd o'i sillebu a hwn—Poulks, Foulkes, Faulk, Faulkes, Foue, Fowc, Fouk, Fowk, Fouke, Fauke, a Faugue: ond yr ydys yma yn mabwysiadu y modd y byddai ef ei hun yn ei sill- ebu—F-o-u-l-kes. Ymddengys mai Normanaidd yw ei wreiddiolaeth, ac iddynt ddyfod trosodd yma gyda y Gorchfygwr. a" Strypës Annals," darnodedig yn y "Presbyterian Rcriew" Ebrill, 1842. Hydref, 1850.] 2 e