Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

H « Y TRAETHODYDD. TRAETHAWD AR Y CYFAMMOD GRAS: GAN Y DIWEDDAR BARCH. RICHARD JONES, o'r WEBN.1 "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fí, y rhai a wnaethant gyfammod â rai trwy aberth." Salm 1. 5. Mab y Salmydd, yn nechreu y salm hon, yn proíFesu crediniaeth o'r gwir Dduw (sef Jehofa), fel Creawdwr, Cynnaliwr, Llywodraethwr, a Barnwr yr holl fyd—" o godiad hyd fachludiad haul;" Salm xix; Bhuf. x 18.__ Ac nid hyny yn unig, ond bod yr Arglwydd gwedi trefnu modd, a neillduo man, ar y ddaear, i wneuthur amlygrwydd mw^ rhagorol o hono ei hun, mewn gras a doethineb, er lleshad myrdd o bechaduriaid o ddynolryw; a'r man lle mae wedi gosod ei orseddfaiuc i weini yr oruchwyliaeth hon, yw yn Sion. A'r modd yw, trwy weinidogaeth ei air, ei weision, a'i Ysbryd ; ynghyd â phob peth sydd wrth ei law a'i alwad, megys is-weision a llaw- forwynion, i wneuthur unrhyw wasanaeth a welo fe'n dda i alw am danynt er llwydd i'w amcan mawr; Ephes. i. 21, 22; Salm lxxxix. 1, 2; cxix. 89—91; Esay xvi. 5. Ond ni phery goruchwyliaeth y weinidogaeth hon yn hir na bydd wedi gorphen ei holl waith ar y ddaear yn mynydd Sion, ac yna ceir gweled yr Hwn a goronwyd â drain yn esgyn i, ac yn eistedd ar orseddfainc barn, ac yn meddiannu yn gyflawn bob mawredd ac awdurdod i'w llenwi, a phob cyfaddasrwydd i weini yr achos arni (Act. xvii. 31; Ioan v. 22, 27, 30; 1 Cor. xv. 24, &c), a bydd nefoedd a daear, at amnaid ei awdurdod, oll i gyflawni unrhyw cldyben a welo fe'n dda (Dad. xx. 11, &c; Dan. vii. 9, 10); a bydd pawb yn ei adnabod yn y dydd hwnw (Act. xvii; xxxi. 3, 4). "Cesglwch fy saint." Nid angelion na seraphiaid (y rha; a elwir yn saint; Judas 14), ond y rhai a neillduwyd ac a fywhawyd trwy "ùù, o eppil syrth- iedig Adda, ac a gymmodwyd â Duw yn aberth anfeidroi Crist Iesu—" y rhaiawnaethantgyfammod â mi trwy aberth" (2 Cor. v. 18, 19; Eéb. ix. 20); ac nid o ddynion cyn pechu, canys nid oedd eisieu aberth cyn hyny, na neb o'r hiliogaeth gwedi ei genedlu; Gen. iii. 24; iv. 1. Dyn, ar y cyntaf, a wnaed yn enaid byw (Gen. ii. 7; 1 Cor. xv. 47), sef, yn laf, O gyfansoddiad priodol i fyw yn ol deddf ei greadigaeth. 2il, O gyfansoddiad cyfaddas i fwynhau Duw, mewn adnabyddiaeth a chym- deithas a mwynhad o hono, ar ei ddelw—yn yr hyn, yn benaf, yr oedd ded- wyddwch hanfodol ei fywyd yn gynnwysedig; Gen. i. 27. Eto, er ei fod wedi ei greu fel hyn yn greadur diniwed a glân, nid oedd dim sicrhad wedi 'Cafwyd y traethawd hwn ymhlith papyrau y Parch. Eichard Jones, yn ei law- ysgrifen ef ei hun. IONAWB, 1853.] B