Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ■ '.' BOD DUW A'I BRIODOLIAETHAU. [Christian Theism : The Testimony of Reason and Revelation to the Existence arìd C/iaracter of the Supreme Being. By Bobert Anchor Thompson, MA. Ia Two Volunies. London : Biviugtons, Wateiioo Place. 1855. TnEisM: The Witness of Reason and Nature to an AU-wise and Beneficent Creator. By the Bev. John Tülloch, D.D., Principal, and Primarius Pro- fessor òf Theplogy, St. Mary's College, St. Andrews. William Blackwood and Sons, Edjnburgh and London. 1855.] Y gwirionedd mawr a chysefìn sydd yn sylfaen crefydd yn wrthddrychol (objecticely) ydyw Bôd Düw ; a chrediniaeth fywiol ac ymarferol o'r^ un gwirionedd, yn cynnyrchu iawn agweddiad y galon tuag at y Bôd Goruchaf yn wyneh pob amlygiad a roddes Efe o hono ei hunan i'w greadur, ydyw gwreiddyn crefydd yn dufewnol (subject'wely) yn y nneddwl. Megys ag mai Duw ydyw yr Achos Cyntaf o bob peth—Ffynnonell wreiddiol pob bywyd a bod, felly y gwirionedd o'i Fôd Ef ydyw sylfaen crefydd fel cyf- undraeth, a chrediniaeth o'r gwirionedd hwnw ydyw gwreiddyn crefydd fel egwyddor. Y cyfryw ydyw pwys a nodweddiad sylíaenol y gwirionedd cyntefig hwn, fel uas gallwn fyfyrio yn hir ar yr un gwrthddrych nac egwyddor, yn myd mater nac ysbryd, nad ydym yn cael ein taflu yn ol arno. O ba bwynt bynag yn amgylchedd anfesurol cylch bodolaeth y cymer, y meddwi ei safle gychwynol, y mae yn rhaid i lioll linellau ei ym- chwiliad, cyn y bydd iddynt gyrhaedd- cydsafiad, cadernid, a threfn, gyd- gyfarfod a therfynu yn y gwirionedd hwn, fel eu canolbwnc mawr a chy- ífredin; Y mae y berthynas gyfreithlawn a gogoneddus sydd yn hanfodi rhwng gwirioneddau a'u gilydd yn derbyn ei bôd a'i phrydferthwch oddiar berthynas gyffredin y cyfan â " Thad y goleuni," yn natur yr hwn y mac pob gwirionedd yn tragywyddol gartrefu. Y mae holl ffrydiau bodolaeth, o'u holrhain, yn ein harwain o anghenrheidrwydd ,i'r Ffynnonell dragy- wyddol o ba un y tarddasant. Megys ag mai " o hono Ef" y mae y cyfan wedi deilliaw, "iddo Ef" y mae yn rhaid i'r cyfan eiu hamain. Mewn mwy nag un ystyr, gellir dyweyd fod " gwirionedd wedi ei sicrhâu yn y nefoedd:" y mae pob cadwen o wirioneddau, pa mor li'osog ac amrywiog bynag ei dolenau, â'i dolen eithaf yn yrûgylymu am Orsedd yv Anfeidrol. Ac fel hyn y mae y Duwdod yn òrpliwyaö i'r dcall mor wirioneddol ag 18Ô6.—1, «