Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BENGEL: EI FYWYD A'I YSGRIFENIADAU. [A Memoir of the Life and Writings of John Albert Bengel, Prelate in Wurtemberg. By ihe Rev. John Christian Frederic Bürk, A.M., D.Ph.J Yr oedd yn hyfryd genym weled yn ddiweddar fod yr iaith Saesoneg yn debyg o gael ei chynnysgaethu am y waith gyntaf ar a wyddom â ehyfieith- iad gofalus o brif waith Bengel, sef ei Gnomon ar y Testament Newydd; a chymerwn ninnau yr hysbysiad hwn yn achlysur i ddwyn yr awdwr, ei lafur, a'i ysgrifeniadau i sylw ein darllenwyr. Ac mewn trefu i ddwyn ein hunain i safle briodol i edrych ar y dyn a'r awdwr, ni a daflwn ein hun- ain i'r oes flaenorol i'w oes ef, ac a edrychwn ar ansawdd yr eglwys i ba un y perthynai cyn iddo ef ddyfod i gyhoeddusrwydd ynddi. Ẅrth gymeryd golwg ar yr Eglwys Lutheraidd, ymddengys ei bod wedi syrthio ymhell cyn amser Bengel i'r fath adfeiliad gresynus, a hynv mor fuan ar ol ei sefydliad, fel yr oedd y gwasanaeth a wnaeth ef, ei rag- flaenoriaid, a'i gydlafurwyr iddi, yn haeddu iddynt yr enw o ddiwygwyr, mor wirioneddol, er nad rnewn gradd mor ëang, a Luther a'i gydweitìiwyr. Dywed un awdwr na welwyd gwedd mor resynol a gwywedig ymhob ystyr ar Brotestaniaeth, er pan y mae yr enw Protestaniaeth yn^ bod, ag a welwyd arni am fwy na chan' mlynedd yn ngwlad ei genedigaeth. Os eir i ymofyn am achosion dirywiad yr Eglwys Lutheraidd, mae yn rhaid edrych yn ol mor bell a'r diwygiad, ac mor uchel a'r diwygwyr; rhaid nesâu mewn ofn at arwr Protestaniaeth^ a dyweyd yn ei wyneb, er mor anhawdd, Ti yw y gŵr; ac ni ddianga yr hynaws Melancthon rhag yr un cyhuddiad. Yn nhŷ ei charedigion, a chan ei pherthynasau agosaf, y clwyfwyd hi. Hauwyd hadau dirywiad ynddi gan yr un dwylaw ag a rodd- asant y dyrnodiau trymaf i'r Babaeth; yn eu holl drafodaeth â hi, ymddengys Luther yn fawrfrydig fel angel Duw, a chymeriad Melancthon yn deg íel y wawr; ond yn eu hymblaid â'u cyd-ddiwj'gwyr, y mae hyfder gwrol ac ardderchog y naill yn cyfnewid i erwindra haerllug,—mae y synwyr cryf a'i llywodraethai yn ei holl symudiadau yn nghanol ei frwdfrydedd vn ei adael; ac y mae mwyneidd-dra serchog a thringar ei gyfaill yn troi yn wendid gwasaidd. Yn eu dadleuon â'r blaid Swissaidd, yr ydyrn, ar ol rhyfeddu yn aruthr at fawredd eu cymeriad. yn dechreu cofio mai dynion oeddynt. Mae yn ofidus gweled oddiwrth ei lythyrau ei hun, pa fodd vr 18Ô6.—2. K