Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. PWYSIGEWYDD YMABFERIADAU DA. DAELITH, Sylwedd yr hou a draddodwyd yn Nghapel Roso-Place, Liverpool, Rhagfyr 24, 1856, GAN Y PARCIf. HENRY REES. Mae addysgiadau moesol, wedi eu seilio ar eu hiawn egwyddorion, yn rhan arbenig o weinidogaeth yr efengyl. Ac üid o herwydd eu bod yn an- mhriodol i'r Sabbath, ac i'r pulpud, yr ydyni ni yn sefyll i fyny i'w cymhelì arnoch yn y wedd hon yn bresennol. Ar yr un pryd, hwyrach, wedi i ni ymgynnull ynghyd ar noswaith o'r wythnos, a ehymeryd ein safle fel hyn o dan y pulpud, y caniatëir i ni arwain meddyliau ein gilydd at ryw bethau mwy cyffredin, ac ymdrin â'r pethauhyny mewn dull ychydig mwy cyfeill- gar a rhydd, nag a fuasai yìi gweddu cystal', ysgatfydd, i amser a gwasanaeth mwy cysegredig. Un o'r deddfau cryfaf a sefydlodd y Crëawdwr i blant dynion ydyw yr hon a elwir deddf ymarferiad, sef y galluhwnw ag sydd yn perthyn i ddyn trwy ba un y mae pob egni o'r eiddo, corff neu feddwl, yn dyfod yn fwy cynnefin a hawdd iddo wrth eu mynychu. Yr ydym oll wedi profi bod hyn yn wir. Mae y duedd at unrhyw weithred, a'r medrusrwydd i'w chyflawni, yn ymffurfio ac yn ymgryfhâu ynorn trwy fynych gyflawniad y weithred ei hun. Ac felly, o'r diwecld, mae y peth yn dyfod megys ya ail natur i ni. Nis gall bywyd, dybygid, o un math hanfodi heb fod iddo ffurf ac ymarferiadau. Mae i bob crëadur ei reddfau a'i arferion (habits). Hyd nod ewyn (foam) ei hunan, mae hwnw, meddant hwy, mewn cysyllt- iad â bywyd, yn ymffurfio ac yn ymgaledu nes dyfod i fod yn gragen i'r llymarch. Felly dyn yr un modd. Mae yn djfíbd i'r byd, mae yn wir, heb ddim ymarferiadau sefydlog; ond y mae ynayfod â rhyw allu gydag ef er hyny ag sydd yn sicr o'i arwain i ffurfio ymarferiadau felly. Sylwcb, er esiampl, ar y plentyn bach; hyd yn nod wrth friwo ei hunan, mae yn dysgu bod yn fwy gwagelog, ac ymreddfu yn yr hyn a'i diogela. Mae ynddo duedd i sylwi ar ac efelychu y,rhai sydd o aragylch iddo, ac i fynychu yr hyn a ddwg ddifyrwch i'w feddwi; ac felly, os caiff fyw, mae o anghen- rheidrwydd yn ffurfio ymarferiadau iddo ei hun. Ar y cyntaf, mae yn eich dwylaw fel y priddgist yn llaw y crochenydd; gellwch ei lunio mewn ystyr 1857.-2 k