Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. SEFYLLFA WAREIDDIOL Y CYMRY. ( Y Oorpheniad.) IV. GwASANAETH Y CYMRY YN NgWAREIDDIAD Y BYD. Nid allaf agor y bennocl hon gyda niwy o briodolrwydd na thrwy gyfieithu ychydig o eiriau Emerson, yr athronydd Arnericanaidd : " Gwaed henaf y ddaear yw y Celtig. Mae rhai eenedloedd yn fyrhoedlog neu ddarfodedig. Pa le mae y Groegiaid ? Pa le mae yr Etruriaid ? Pa le mae y Rhufeiniaid ? Ond y Celtiaid neu y Sidoniaid ydynt yn hen deulu, heb un cof am eu dechreuad, ac mae eu diwedd yn debyg o fod ymhellach fyth yn y dyfodol; oblegid fod ynddynt ddyoddefiad yn gystal a chynnyrchiad. Hwynt-hwy a blanasant Ynys Prydain, ac a roddasant i'r moroedd a'r rnynyddoedd enwau ag sydd yn emynau (poems) ynddynt eu hunain, ac a efelychant buríeisiau anian. Cofnodir hwy yn barchus yn hanesion henaf Êwrop. Nid oedd ganddynt ddaliadaeth wriogaethol or- mesol (violent feudal tenure), ond meddiannai yr amaethydd ei dir. Yr oedd ganddynt egwyddor lythyrenol, seryddiaeth, addysg offeiriadol, a chrefydd ysplenydd. Mae ganddynt awen ddiogel ac amrywiol. Gwnaethant y lênyddiaeth boblogaidd oreu yn y canoloesoedd, yn nghaniadau Merddin, ac yn ffughanes hyfryd a thyner y Brenin Arthur."—English Traits. Mae y sylwadau olaf yn perthyn i'r Cyrary yn neillduol. f Pe gallasem gredu rhai honiadau, dechreuodd gwasanaeth v genedl yn foreu, gan y dywedir mai hwy a ddysgodd y ffordd i'r Rhufeiniaid wneyd melinau dwfr; ond er fod hyn yn ammheus, mae Ue i gredu iddynt anrhegu eu goresgynwyr â rhai pethau buddiol. Enwir yn neillduol basgedi (Bascanda BritannosJ ,cwcc\\)] y Beirdd (bardocucculo),acamryw fathau o gerbydau olwynog. Y Gauliaid oedd y cyntaf a ddyfeisent sebon, gwlanen, a gwagrau; ac oddiwrthynt hwy y benthyciwyd hwynt. Dichon fod gwahaniaeth barn ynghylch rhinweddau gwareiddiol diod frag; ond y llwythau Celtiaidd a'i dyfeisiodd gyntaf; ac yr oedd cwrw Cymru mewn cymaint o barch ymysg mynactíod Peterborough, fel y darfu iddynt ammodi rhoddi darn o dir am ddeg barilaid o gwrw Cymraeg yn flynyddol. Yr oedd y Cymry yn enwog fel helwyr; arferent, cyn eu goresgyniad gan y Rhufeiniaid, ddanfou cwn hela i'r Cyfandir; ac yn y ddegfed ganrif gwnaethant les mawr i'r Ynys trwy ddileu y bleiddiaid o'r wlad, nes nad oedd braidd un o honynt vn v tir. Enwyd rhai o'u gweithredoedd 1857.—4, 2 B