Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y DYSTIOLAETH A'R DRUGAREDDFA; NEU DDEDDF A GRAS. Y mae mawredd a gwerth anmhrisiadwy rhagorfreintiau "y dyddiau diweddaf hyn " mewn cysylltiad â goruchwyliaeth yr efengyl yn ddiam- mheuol, ac yn arddodi arnom ni, " ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd," gyfrifoldeh uchel a phwysig. Dichon y buom weithiau, wrth ddarllen am yrymweliadau a'r gweledigaethau nefol a dderbynid ar brydiau arbenig gan "y rhai gynt," ac am y gwyrthiau rhyfeddol a gyflawnid yn "ìnlyn- yddoedd yr hen oesoedd," ac am bethau gogoneddus eraill a fwynhëid dan yr hen oruchwyliaeth, yn barod i genfîgenu wrth freintiau neillduol y tadau Iuddewig, ac i ddychymygu mai yn y dyddiau hyny yr oedd * yr oes aur- aidd." Eithr, erbyn cymharu yn deg, gwelir yn ebrwydd fod ein manteis- ion crefyddol ni yn annhraethol amgenach ymhob modd na'u cyfleusderau hwy, a bod yr holl ogoniant oedd yn perthyn i oruchwyliaeth Moses yn diflanu o flaen " gogoniant tra rhagorol" yr efengyl. Y mae ein ìlygaid ni yn gweled, a'n clustiau ni yn clywedj yr hyu a chwennychodd Uawer o brophwydi a breninoedd a rhai cyfiawn, oes ar ol oes, eu gweled a'u clywed, ac nis cawsant. Ond tra y dylem ddiolch yn wresog am ragoriaethau yr amseroedd efengylaidd, nid anhyfryd nac anfuddiol yw i ni, yn awr ac eil- waith, chwilio i'r "llawer modd " hyny drwy ba rai yr oedd Duw, "cyn dyfod fíydd," yn llefaru am Geidwad dyn. Yr oedd offeiriaid cysgodol yn gweinyddu, aberthau cysgodol yn gwaedu, iachawdwyr cysgodol yn gwaredu yr Israel, a breninoedd cysgodol yn dal y deyrnwialen—oll yn cyfeirio ymlaen at Iesu, Messîah Duw; ac yn y cyfamser yr ydoedd hefyd lîaws o brophwydi, dan gynhyrfiad ysbrydoliaeth, yn rhagddadgan yn fanwl ddyfodiad a gwaith a theyrnasiad Crist yr Arglwydd. Pan ddaeth y Mes- sîah, dyna nôd ac amcan yr oruchwyliaeth seremonîol wedi dyfod i ben, a hithau yn myned yn ffurf ddifywyd a diddefnydd. Ond er fod y drefn gysgodol wedi myned heibio, y mae ei choffadwriaeth eto yn barchus, a'i hanes gyda ni er ein haddysg a'n Iles. Y mae genym yn awr bob mantais i fyned i weled ei dirgelion, gan fod yr allweddau priodol wedi eu dodi yn ein dwylaw. Pan yr elom o dan arweiniad " Ysbryd doethineb a dadgudd- iad" i edrych dodrefn yr hen gysegrfa, a phan y byddom yn ngoleuni yr efengyl yn syllu ar yr arwyddluniau yno, y cwbl yn ordeiniedig gan Dduw, ac yn gyflawnedig yn Nghrist, nid allwn lai na dywedyd, " Da yvr i ni fod yma." Ymysg yr holl bethau cysgodol yn mhabell yr Arglwydd, fe dybygid 1859.—ì, b