Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

43 Y TRAETHODYDD. ARWYDDION EIN HAMSEROEDD YN GYMHELLIADAÜ I FFYDD A SANCTEIDDRWYDD. Sylwadmt, Eglurhäol ac Ymarferol ar 2 Pedr iii. 14. GAN Y PARCH. HENRY REES, LIVERPOOL. " 0 henyydd paham, anwylyd, gan eich bod yn dysgwyl y pethau hyn, gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo Ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn dcüargyhoedd." Daefu i Pedr, yn gymaint a'i fod yn Apostol yr enwaediad, ysgrifenu ei ddau lythyr at yr Iuddewon Cristionogol, ac at y dosbarth hwnw o hon- ynt yn neillduol ag oeddynt wedi gadael eu gwlad eu hunain, ac yn ddyeithriaid gwasgaredig ynrysg y Cenedloedd. Yr oedd y rhai hyn ymhob man, yn gyffelyb i'w brodyr yn Judea, dan erlidigaeth chwerw oddiwrth eu cydgenedl, oblegid eu proffes o Grist a'r efengyl. Mae yn ddiammheu fod y cristionogion, ar y naill law, yn cyhoeddi barn Duw yn eu herbyn hwy fel gwrthodwyr y Mess'iah; a hwythau, o'r ochr arall, yn cyhuddo y cristionogion am wrthod Duw a chrefydd eu tadau, temí ac addoliad yr hwn oeddynt yn Jerusalem. Hònai y Cristionogion i'r gwrthwj^neb, mai hwynt-hwy, y rhai oedd yn gorfoleddu yn Nghrist Iesu, oedd yr enwaediad a gwir hâd Abraham, a'u bod wedi cael ynddo Ef sylwedd y cysgodau a'r gwasanaeth Iuddewig, tra nad oedd gan eu gelynion, bellaeh, ond y plisc—yr egwyddorion llesg a thlodion; ac na bycldai y rhai hyny chwaith ddim ganddynt yn hir eto—bod Crist, yn ol ei addewid, yn dyfod i losgi eu dinas a'u teml, ac i newid y defodau a draddodasai Moses i'r eglwys am ei wasanaeth a'i oràinhadau ei hun. Yn awr, yr oedd hwn yn bwnc bywyd i'r ddwy ochr. Os dygwyddai felly, byddai yn gadarnhàd mawr i Gristionogaeth, ac yn. ergyd anfedd- yginiaethol i Iuddewaeth. Ac ni a allem feddwl fod teimladau cryfion yn gweithio o bob tu. Ond yn y man, wedi hir daeru, a'r Arglwydd meoys yn oedi dyfod, mae yr erlidwyr yn troi yn watwarwyr. Gofynent mewn gwawd a dirmyg, " Pa le mae addewid ei ddyfodiad ef ? canys er pan hunodd y tadau, mae pob peth yn parhàu fel yr oeddynt o dde- chreuad y crëadigaeth." Yn y bcnnod hon, mae yr Apostol yn annog y credinwyr i beidio llwfrhâu o dan y prawf yuia. Mae yn dwyn ar gof iddynt fod y prophwydi sanctaidd, a hwythau, apostolion yr Arglwydd a'r Iachawdwr, wedi rhagddywedyd am y dyddiau hyn, a bod y cyíryw 1803.—1, b