Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR HEN BRIFYSGOLION, A'R BRIFYSGOL I GYMRÜ. Ymysg yr ymdrechion a wneir mewn llawer ffordd i ddyrchafu cenedl y Gymry, mae yn amlwg na ddylem íod yn ddisylw o'r cais sydd yn awr ger bron y wlad i sefydlu Prifysgol Gymreig. Yr ydym gan hyny yn bwriadu traethu ein meddyliau ar y pwnc hwn. Ond y mae yn ym- ddangos yn anghenrheidiol i ni dafiu golwg yn gyntaf ar y manteision neu yr anfanteision sydd ynglŷn â'r hen Brifysgolion, gan y bydd hyny yn ein cynnorthwyo i weled a oes achos am Brifysgol newydd, a pha fath Brifysgol a fyddai yn ddymunol. Gofynir weithiau, Pa rai yw y Prifysgolion goreu? Nid ydym yn meddwl ateb y goíyniad hwn, oblegid nis gellir rhoddi ateb iddo yn benderfynol heb wneuthur cam ar gwirionedd. Y mae rhyw ragor- iaethau a diffygion yn perthyn iddynt oll, a'r un rhai yn rhagori mewn un peth, ond yn ddiffygiol mewn peth arall. Y mae llawer yn ym- ddibynu ar yr hyn y bwriedir ei ddysgu, gan fod y naill yn rhagori mewn athroniaeth, y llall mewn addysg glasurol, ac un arall drachefh mewn rhifyddiaeth. Yr ydyni yn gwybod y bydd rhai o'n darllenwyr yn synu atom, gan eu bod yn cymeryd yn ganiatäol fod ysgolion yr Almaen yn tra-rhagori ymhob ystyr. Y mae hyn yn gamsyniad dirfawr, ac nis gallasai neb syrthio iddo ond rhai hawdd iawn eu hudo. Rhag i ni fod yn euog o gamddesgrifiad cyffelyb yr ochr arall, dylem ddywed- yd nad ydym yn diystyru ysgoleigion yr Almaen, nac am roddi ar ddeall nad oes rhyw fantais i'w chael trwy ddarllen eu hysgrifeniadau. Pa beth bynag oeddynt yn amser Porson, nis gellir cymhwyso atynt yn awr y geiriau hyny o'i eiddo ef— "The Germans in Greek Are sadly to seek, Not five in five score, But ninety-five more; All except Herman, And Herman is a German."* Er fe allai fod y dywediad hwn yn ddigon priodol yn ei ddyddiau ef, nid ydyw felly mwyach. Y maent wedi bod yn fwy llafurus na neb * Er mwvn yr anghyfarwydd, fe allai y dylid egluro mai aralleiriad digrifol o'r Groeg yw y llmellau hyn o eiddo Porson, ac niai ystyr y lliuell olaf ydyw, nad oedd Herman ond ysgolaig Germanaidd, er mai eí'e oedd y goreu. Os oedd pump a phymtheg a phedwar ugain allan o bob cant yu annysgedig, pa fodd y gallasai Herman fod yn eithriad ? Yr ateb ydyw, nad oedd Herman ond ysgoìaig Germanaidd. 1865.—2, K