Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. MATTHEW, MARC, LÜC, AC IOAN. Y mae yn ddiammheu mai y dylanwad cryfaf ar y byd yw dylanwad personol dynion byw yn meddu ar feddyliau tywysogaidd, ac ar y nodweddau cymhwys i gynnyrchu cariad, neu barch, neu edmygedd, neu yr oll a mwy, mewn eraill tuag atynt. Y mae y gallu hwn mewn dyn yn gysgod o allu y Crëawdwr ei hun, gan ei fod yn anadliad ysbryd ar ddynion ag oeddynt o'r blaen, o ran meddylgarwch, fel llaid y ddaear, nes iddynt gael eu gwneuthur, fel y gwnaed Adda, yn eneid- iau byw. Y nesaf mewn effeithiolrwydd yw y gallu sydd yn yr hanes am danynt, am yr hyn oeddynt ac a wnaethant. Dylanwad personol dyn yw y cryfaí a'r dwysaf; ond ei ddylanwad drwy yr hanes am dano yw yr ehangaf. Y mae y person ei hun yn dylanwadu yn ddwfn, ond mewn cylch lled gyfyng mewn cymhariaeth, tra y mae ei hanes yn effeithio mewn cylch ehangach, ond yn fwy arwynebol. Yr oedd y fantais hon gan hanes person pan yr ydoedd yn cael ei drosglwyddo o wlad i wlad, ac o oes i oes, trwy lawysgrifen copîwyr; ond llawer mwy yn awr, pan y mae y wasg yn amlhâu copiau, a'r ager yn eu cludo i'r gwledydd a'r oesau pellaf. Trwy y moddion hyn y mae bywgraffiadau wedi effeithio i raddau pellactmiag y medr neb ddychymygu, er da ac er drwg. Y mae dylanẁad bywgraffiaeth i'w weled yn awr yn seíyllía Ewrop. Y mae yn amlwg íod seíyllfa bresennol teyrnasoedd y Cyfan- dir i'w briodoli, i íesur mwy neu lai, i graffder, yni, a beiddgarwch Napoleon Buonaparte a Louis Napoleon. A chaniatâu y cwbl a ellir ei hawlu i allu cynnenid eu nieddyliau, yr hyn a gynhyrfodd y gallu hwnw i weithredu fel y gwriaeth oedd Hanes Bywyd Julius Caesar. Trwy ei ddarllen, hwy a addolasant Cassar; a ffrwyth yr addoliad oedd uchelgais yn y naill a'r Uall i fod yn Cassar ei hun. Ac yn yr addoliad, hwy a aberthasant filoedd o fywydau. A mwy: fe ysgrifenodd y Napoleon presennolthanes ei fywyd; a thrwy hyny fe osododd y ddelw aur i fyny, gan ddysgwyl i'r holl genhedloedd syrthio ger ei bron a'i haddoli, er, ni a obeithiwn, heb unrhyw duedd, pe buasai y gallu ganddo, i fwrw neb i ffwrn dân a wrthodai. Y mae dylanwad bywgraffiaeth i'w weled ar gref- yddau y byd. Fe ddarllenodd Ignatius Loyola hanes bywydau sèintiau Pabaidd, a thrwy yr hanes fe gynneuwyd ei fynwes ef â'r tân oedd yn eu mynwes hwy; yno fe ysodd deimladau dynol ei natur, ac oddiyno fe ruthrodd allan dan yr enw Jesuitiaeth yn fflam a fuasai yn difa yn llwyr bob rhyddid ewyllys a phob rhwymau cydwybod i Dduw oddiar wyneb 1867.—4. 2 c