Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR ATHRAW RHYFEL. Dtma Ewrop eto wedi bod am lawer o fisoedd yn ysgol yr hen athraw caled a chostus Bhyfel, yr hwn a argralfa ei wersi ar feddyliau ei ddosbarth â haiarn a gwaed. 0 uffern yr anfonwyd yr athraw hwn i'n byd ni; ar draul y wlad hono y mae yn dwyn ei waith ymlaen; ac y mae sawyr ei thân a'i brwmstan ar yr holl addysg a gyfrenir ganddo yn uniongyrchol: ac eto, y mae gwersi buddiol a phwysig i'w cael o íyfyrio ar ei gymeriad a'i waith. Yr ydym yn gobeithio y bydd y byd gwareiddiedig wedi dysgu llawer o ddoethineb a daioni—am y drwg nid oes dim amirîheuaeth—oddiwrth y gwersi arswydus a roddwyd ganddo yn ystod y misoedd hyn o drychineb. Yr ydym ni yn credu fod gan Dduw lywodraeth ar y byd; fod yn y nefoedd Un a lywodraetha yn mrenhiniaeth dynion; ac mai nid geiriau y gellir eu hathronyddu a'u troi i gynnwys unrhyw beth neu ddim ydyw " Gott in der Geschichte"—Duw mewn Hanesyddiaeth. Credwn hefyd fod yn sefyllfa foesol Ffrainc ryw ddrygau ag oeddynt yn týnu anfoddlonrwydd Duw mewn modd arbenig. Ië, credwn ymhellach fod yr Anfeidrol wedi cymeryd Prwssia fel " gw'ialen ei lid " i geryddu Ffrainc, ac na fydd ein darlleniad o'r gyfrol newydd ofnadwy hon a daflwyd i'n dwylaw gan ítyfel ond arwynebol a digynnyrch mewn cymhariaeth, os na roddwn le a sylw priodol i'r gwirioneddau pwysig hyn wrth ei darllen. Ar yr un pryd, nid ydym yn credu fod y golygiad hwn ar ryfel—ar y rhyfel dan sylw nac un rhyfel arall, yn cyfiawnhâu nac yn esgusodi Napoleon yn cyhoeddi rhyfel, na Phrwssia yn ei gario ymlaen, o leiaf ymhellach na rhyw bwynt penodol; ac nad ydyw yn perthyn i neb gymeryd hyn yn ddadl ar unrhyw adeg dros ryfel. Fel yr awgrymasom yn barod, drwg o'r fath waethaf yw rhyfel, ac nid oes dim a all newid ei natur a'i wneyd yn dda. Os oes amgylchiadau yn dygwydd weithiau—os oes, dichon, ac y mae yn debyg fod, ond yr ydym yn dra sicr mai yn antynych iawn y mae hyny—ymha rai y gellir cymeryd yr olwg ffafriol hono mewn cymhariaeth ar ryfel, ac edrych arno fel y lleiaf o ddau ddrwg, nid ydyw y pryd hwnw yn ddim amgen na drwg, a drwg ag y dylid ysgoi rhagddo a'i wrthwynebu hyd v mae 1871.—3. s