Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DEFODAETH. Amlwg yw fod yr Eglwys Sefydledig, hyd yn ddiweddar, wedi bod mewn sefyllía o gysgadrwydd crefyddol; yr Eglwys, eiddo yr hon yw y degwm a'r offrwm, y Prifysgolion a'r gwaddoliadau, nawdd y Goron a'r bendefigaeth, amddiffyniad y bidog a'r clêdd. Ond er hyn oll, ni wnaeth nemawr i ddyrchafu y wlad mewn moesau a chrefydd, ac er lledaenu gwybodaeth ysbrydol, dros y tymmor hirfaith o 800 o flyn- yddau. Dywed un hanesydd eglwysig fod Cymru, ar un adeg, pan dan ddylanwad yr Eglwys, wedi cael ei darostwng mor isel o ran ei moesau, nes myned bron yn "drefedigaeth o gythreuliaid." Ond er ys rhai blynyddau, ymddengys graddau o adfywiad yn yr Eglwys, a gwnaeth y dosbarth hyny eu hymddangosiad ynddi ag sydd wedi achosi cymaint o flinder yn ddiweddar i bob Eglwyswr efengylaidd, sef y Defodwyr. Geilw y gwŷr hyn y cynhyrfiadau a gynnyrchir ganddynt yn yr Eglwys yn " Ddiwygiad Catholig," ac ymwrthodant yn hollol âg egwyddorion y Diwygiad Protestanaidd, gan fabwysiadu prif arferion ac egwyddorion ■Eglwys Ehufain. Y mae Protestaniaeth yn cael ei ffieiddio gan yr offeiriaid Defodol, ac am hyny y maent yn drwgliwio yr egwyddorion, ac yn ymwrthod â'r enw. Cyhoeddwyd llyfr yn ddiweddar gan un o honynt, yr hwn sydd yn weinidog rheolaidd mewn Eglwys Brotestan- ajdd, o dan y teitl, " Yr Eglwys a'r Byd," ymha un y dywed " mai Protestaniaeth sydd wedi cynnyrchu yr holl heresiau, ymraniadau, a'r anffyddiaeth a ymddangosodd yn ystod y 300 mlynedd diweddaf—o amser Martin Luther hyd ddyddiau Joe Smith." Nis gallwn gydweled â'r rhai hyny a dybiant mai darfod yn llwyr, a pyny yn fuan, a wna y symudiad hwn yn yr Eglwys Sefydledig. Tyb- iem mai diffyg ystyriaeth bri'odol o gyffredinolrwydd a chadernid dynol y symudiad ydyw yr achos i neb gredu hyny. Y mae anian lygredig calon dyn yn gallu ymgymmodi yn rhwydd àg athrawiaethau y Defod- wyr> fel y dengys y' brwdfrydedd a arddangosir gan gynifer o lëygwyr o bob gradd o blaid yr arferion hyn. Ac y mae erthyglau, canonau, a 1874.—2. i