Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRÁETHODYDD Y BIBL. Yn euog, yn ofnus, yn dlawd, ac yn ffôl, Peryglon ofnadwy yn mlaen ac yn ol, Caed Dyn yn mro angeu, heb Dduw yn y byd; Y ffordd a dramwyai a redai i waered, Er gweled ei dystryw nis gallai ymwared, Ei gyflwr bob cam âi yn waeth-waeth o hyd. Ei lamp, oleuasid âg olew y neí, Ddeg grâdd a dywyllwyd; palfalu wnai ef Am Dduw y gwirionedd yn nhalaeth y gau; Pa un ai cysgodau ai ynte sylweddau A welai yn symud yn niwl y pellderau, Mae 'n methu cael sicrwydd, a'r goleu'n prinhâu. Duw welai ei blentyn mewn geudeb a gwall, Yn difrif ymofyn â dewin y fall A wyddai efe pa le trigai ei Dad; Ac eilwaith yn holi uffernol oraclau Pa waed a ddiffoddai y ffwrn a'i phoeth-fflamau, 0 hyd oedd yn cynneu o'i fewn heb nacâd. Ymrwygodd ffynnonau tosturi y Tad, A nofiai 'i ewyllys ar foroedd o râd, A'i law hollalluog o'i fynwes a dŷn; Cyfodai o'i galon yn newydd-grëedig Arfaethau o hêdd tuag at y colledig, Ei golli,—ei adael i farw ni fýn. 1875,—1. a