Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. RHEOL FFYDD A CHYNNYDD YR ATHRAWIAETH. EHAN I. Un o nodau gwahaniaethol Protestaniaeth efengylaidd ydyw y gred- iniaeth yn nigonolrwydd yr Ysgrythyrau Sanctaidd fel unig reol ffydd; ac y mae y grediniaeth hon yn gorphwys ar y grediniaeth yn eu tarddiad Dwyfol. Nid ydym yn rhoddi y lle blaenaf i'r grediniaeth yma ymysg y nodau gwahaniaethol; eto y mae yn rhaid addef fod iddi le pwysig—mor bwysig fel nas gall un dyn a gredo mai y Bibl ydyw unig reol ei ffydd, ymuno â chymundeb Eglwys Ehufain. Y prif nod sydd yn gwahaniaethu Protestaniaeth oddiwrth Babyddiaeth ydyw yr hyn a olygir fel egwyddor fawr Protestaniaeth, neu y gallu grymus a roddes iddi ei bodolaeth; a buasem, yn flaenorol i unrhyw ym- chwiliad, yn barod i feddwl nad oedd un syniad ynghylch y Bibl yn meddu ar ddigon o nerth i ddwyn Protestaniaeth i fôd; fod yn rhaid cael rhyw wirionedd mawr allan o gynnwys y Bibl ei hun tuag at beri y fath chwyldroad yn y byd crefyddol. Mae y golygiad am awdurdod traddodiad yn cael lle mawr yn nghredo Eglwys Rhufain. Eto nid y golygiad hwn ydyw ei phrif nod gwahaniaethol; nid oes iddo ond lle ailraddol: dyrchefir traddodiad i safle gydwastad â'r Ysgrythyrau, am fod hyny yn anghenrheidiol i attegu athrawiaethau a defodau nad ellir eu profi allan o'r Bibl. Rhoddir lle uwch ganddi, gan hyny, i'rpethau y mae yn dal ei gafael mewn traddodiad er eu mwyn. Y penaf o nodau gwahaniaethol Protestaniaeth, neu ei hegwyddor, ydyw y gwirionedd hwnw ag yr oedd y cyhoeddiad o hono yn ffurfio gwrthdystiad yn erbyn hanfod y Babaeth—yn ei herbyn fel cyfundraeth gyfan, nid yn erbyn rhanau neillduol o honi. Ond nid, y gwadiad o ddigonolrwydd yr Ys- grythyrau ar wahan oddiwrth draddodiad yr eglwys foreuol ydoedd hanfod Pabyddiaeth; nid oedd y golygiadau ar Reol Fhdd ond attegion i'r gyfundraeth. A'r un modd, o herwydd fod yr Ysgrythyrau yn llefaru mor eglur ar brif wirionedd y Diwygiad, y daeth y Diwygwyr i roddi 1877.—1. B