Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. WILLIAMS 0 LANWBTYD. ii. Yn hen íelin Maes-y-gwaelod, tŷ ei rieni, y gadawsom ni David Williams yr haf diweddaf; ac yno y gorphwysodd am ychydig amser hyd nes penderfynu y cyfeiriad ag oedd yn awr yn ofynol iddo gym. eryd. Nid oes un ammheuaeth na fa llawer pwyllgor teuluaidd yn eistedd ar ei fater, ac fod cryn wahaniaeth rhwng syniadau yr hen a'r ieuanc mewn perthynas i'r dyfodol. Mae yn ddigon tebygol taw aros yn ei ardal enedigol ydoedd dymuniad a chynghor ei rieni, ond gweled tipyn o'r byd, a chyrhaedd gwybodaeth eangach amanylach o ganghen- au ei grefft, ydoedd penderfyniad y bachgenyn un ar bymtheg oed. Pryderus o herwydd eu profiad, fel rheol, ydyw yr hen; ond antur- iaethus, os nid rhyfygus lawer pryd, ydyw'r ieuanc. Aflonydd, ac am fyned rhagddo, ydyw'r ieuanc: conseroatẁe, ac awyddus am lonyddwch, ydyw yr hen, ac yn enwedig yr oedranus. Mae gwahaniaeth mawr rhwng lleferydd yr hen profiadol a'r ieuanc dibrofiad. Ni ddaw plant byth i amgyffred pryder y rhieni hyd nes dyfod o honynt yn rhieni eu hunain. Camp ydyw i ddyn ieuanc wrthsefyll profedigaeth; ac hyd nes ei hennill, nis gŵyr o ba ddefnyddiau y mae wedi ei wneyd. Llai peth ydyw diogelu yr ieuanc rhag drwg na'u dysgu i adnabod drwg dan bob cochl a ffugenw, a'i orchfygu yn yr agweddau hyny. Mae y natur ddynol, a'i holl alluoedd a'i gwendidau, i'w chael mewn cymoedd tawel, diarffordd, yn gystal ag yn y trefydd a'r dinasoedd mawrion. Ni ddichon neb wybod beth sydd ynddo hyd nes y gwesgir ef allan gan amgylchiadau. Fe all David Williams, os myn, fyw yn dduwiol mewn tref, yn llawn cystal ag yn ardal fynyddig, neillduedig Llanwrtyd. Mae yn penderfynu myned i Lanymddyfri i ymofyn am waith, ond yn benaf er mwyn cyrhaedd rhagor o wybodaeth am ei waith. Nid oes ganddo fawr o waith paco: nid oes ganddo lawer o newid diliad, ŵc felly nid oes angen cymhorth dyn nac anifail i gario ei luggage: gwir fod ganddo fwy na Jacob pan adawodd dŷ ei dad, oblegid y mae ganddo sypyn bychan mewn napcyn, ond dyna i gyd. Mae y byd o'i fiaen i ddewis ei wersyllfa, a thra v parhao yn alluog i ddefnyddio ei finawyd, 1879.—2. k