Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. LLYFE DE. HUGHES AE Y WEINIDOGAETH. [Y"n y Traethodydd am Ebrill y flwyddyn ddiweddaf cyhoeddasom Nodiad ar y llyfr uchod, a chan ein bod yn ei ystyried yn gyfraniad gwerthfawr i'n llenyddiaeth, ac ar fater ag y mae o bwys i'n cydwladwyr feddu golygiadau cywir yn ei gylch, awgrymasom y byddai i ni cyn hir alw sylw ato yu helaethach. Yn fuan ar ol hyny yr oedd yn dda genym gael addewid gan un o'n hysgrifenwyr galluocaf am erthygl arno. Ond cyn pen nemawr cawsom ar ddeali fod cyfaill tra theilwng arall yn ysgrifenu, ac fod ei erthygl yntau hefyd yn cael ei bwriadu i'r Titá_ETHODrDD. Wedi peth ystyriaeth, a chan fod genym ymddiried mawr yn ngallu, a barn, a phurdeb amcan ein dau gyfaill rhagorol, ac nad ydoedd yn annhebyg y byddent yn edrych ar y mater o safieoedd a fyddent ychydig yn wahanol, amlygasom i'r ddau pa fodd yr oedd pethau yn bod, ac annogasom hwynt i fyned ymlaen gyda'u hamcanion, ac y cyhoeddem y ddwy erthygl. Buont mor hynaws a chydsynio â'n cais, ac yn awr y mae yn hyfryd genym osod eu herthyglau o flaen ein darllenwyr. Bydded iddynt hwythau farnu rhyngddynt. Y mae pob un i farnu drosto ei hun ar fater fel yma, bid sicr; ond fe fyddai yn addas fod genym syniad gweddol gyflawn am yr hyu y ceisiwn ffurfio barn yn ei gylch; ac yn neillduol fe ddysgwylid i ddarllenwyr y Traethodydd wneyd ymdrech i ,f farnu barn gyfiawn."] ámcan yr ysgrif hon ydyw cofnodi, mor gywir ag y gellir, hanes ymddyddan a g; merodd le rhwng pedwar o wýr, sef Ioan Rhys, Dafydd Prys, Gwilym Prydderch, ac Ifan Morgan, mewn perthynas i wahanol bennodau y l]yfr uchod. Nid ydys yn ymrwymo i amddiffyn y naill na'r Uall o'r syniadau a goleddir gan y rhai sydd yn cymeryd rhan yn yr ymddyddan; ond yr ydys yn tybied, gan fod pob un o'r personau yn cydwybodol gredu y syniad a draetha, a'i fod yn trin y mater yn deg a phwyllog, a chyda rhyw fesur o ddeheurwydd, na byddai yn annyddorol gan ddarllenwyr y Traethodydd gael adroddiad o'r ymddyddan; yn gymaint ag mai eu hunig amcan hwy, wrth gwrs, ydyw cael gafael ar y gwirionedd. Ond cyn dechreu ar yr adroddiad, hwyrach na fyddai gair neu ddau am y gwahanol bersonau sydd yn cymeryd rhan yn yr ymddyddan yn annerbyniol; yn enwedig gan y bydd hyny yn gwneyd yr adroddiad yn fwy dyddorol, a hefyd yn fwy dealladwy. Gweinidog ordeiniedig ydyw Ioan, wedi cael addysg athrofäol, wedi pasio arholiadau yn anrhydeddus, wedi gweithio ei ffordd, o fod yn fachgen tlawd, i fod yn weinidog dysgedig gyda chorff y Methodistiaid;