Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. MAX MULLER AR DARDDIAD A CHYNNYDD CREFYDD, The Hibbert Lecturers, 1878. Lectures on The Orìgìn and Growth of Beligìon as Illustrated by the Beligìons of Indìa. By F. Max Müller, M.A. London: 1878. Mae eisoes dair cyfres o'r Hibbert Lectures wedi eu traddodi a'u cyhoeddi. Y gyfres uchod yw y gyntaf; traddodwyd yr ail gan P. Le Page Renouf yn 1879, ar Grefydd Gyntefig yr Aipht; a'r drydedd yn Mai diweddaf, gan Ernest Renan, ar Ddylanwad Rhufain ar Gristion» ogaeth; ac y mae T. W. Rhys Davids wedi ei benodi i draddodi y bedwaredd gyfres yn 1881, ar Baddhiaeth. Gadawodd Mr. Robert Hibbert, yr hwn a fu farw yn 1849, swm o arian sydd yn awr yn cynnyrchu tua mil o bunnau yn flynyddol, yn nwylaw yniddiriedolwyr i'w defayddio yn y ffordd a fernid ganddynt hwy "yn fwyaf efTeithiol er lledaeniad Cristionogaeth yn ei ffurf fwyaf syml a dealladwy, ac er ymarferiad dilyffethair y farn bersonol mewn materion crefyddol." Am lawer o flynyddoedd treuliwyd yr arian ar ddiwylliant uwchraddol efrydwyr yn parotoi eu hunain i'r weinidogaeth; ac mewn blynydd- oedd diweddarach mabwysiadwyd amryw gynlluniau eraill i gario allan amcanion yr ewyllysydd. Awgrymwyd sefydliad yr Hibbert Lecture fel cynllun effeithiol i hyny trwy gofeb at yr ymddiriedolwyr, wedi ei har- wyddo gan ddeunaw o weinidogion a llëygwyr perthynol i wahanol bleidiau crefyddol, oll yn adnabyddus nid yn unig fèl ysgolheigion gwych, ond hefyd fel gwŷr o alluoedd uwchraddol ac o syniadati rhydd- %dig, yn cydawyddu am ymdriniaeth fwy rhydd a diofn â chwestiynau crefyddol nag a geir yn gyffredin o gadeiriau duwinyddol y Prifysgolion a lleoedd eraill. Ar ben y rhestr mae Dr. James Martineau a Deon Stanley; ac yn eu mysg ceir y Proffeswr Max Müller, a'i gynnorthwy- wr, A. H. Sayce, y Prifathraw Tulloch, Proffeswr Campbell, Charles Beard, T. K. Cheyne, ac eraill. Yn y gofeb dy wedir " fod holl ysgol- wn duwinyddol y deyrnas, o unrhyw nod, yn parhâu o dan rwymau traddodiadol, oddiwrth ba rai y mae ymehwiliadau mewn canghenau 3 o