Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DAELITHIAU Y PARCH. D. C. DAVIES, M.A., AR " GRISTIONOGAETH." IV. rERTHYNAS CRISTIONOGAETH A'R EWYLLYS. Nid oes yr un pwnc sydd wedi bod yn destun mwy o ddadl, gan Athronwyr, Gwyddonwyr, a Duwinyddion, na'r Ewyllys. Y mae y ddadl eisoes wedi parhâu am ddeunaw cant o flynyddoedd, a digon t°byg y bydd iddi gael ei chario ymlaen gan rywrai am ddeunaw cant arall i dd'od. Hyd yn ddiweddar cariwyd y ddadl ymlaen rhwng Cristionogion a'u gilydd, ond bellach una Cristionogion i ddadleu y pwnc yn erbyn ammheuwyr gwyddonol. Nid wyf ar hyn o bryd 3*11 bwriadu cymeryd y naill ochr mwy na'r llall ar y materion mewn dadl. Eithr priodol ydyw ceisio ateb y gofyniad, Paham y mae dadl yn bod 0 gwbl ? Nis dichon fod gwahaniaeth barn am y ffeithiau, gan eu bod yn bethau profiadol gan bawrb fel eu gilydd. Pa beth ynte ydyw gwreidd- yn yr anhawsderau sydd yn perthyn i'r gynneddf hon yn anad yr un arall, ag sydd yn peri fod cymaint 0 amrywiaeth barn yn ei chylch ì Un rheswm ydyw, Fod dynion yn anghytuno â'u gilydd am yr hyn a fedd- ylir wrth yr Ewyllys. Ffyna dau olygiad gAvrthwynebol 0 barthed iddi; yn ol y naill, chwant neu ddymuniad (desire) ydy w ; yn ol y llall, gallu ydyw i reoli y chwant ac i gymedroli y dymuniad. Fod gwydd- onwyr y dyddiau hyn yn dal y blaenaf a ddangosir yn eglur gan Proffeswr Huxley yn ei lyfr hynod ar David Hume (cyfres yr EngUth Men of Letters). Barn Hume ei hunan yn ddiau ydoedd, mai gallu rheoleiddiol^ yw yr Ewyllys; ond y mae Proffeswr Huxley yn dyfynu ?î\7n. ^Uẁrio Hume ac yn dyweyd yn bendant mai dymuniad ydyw ! Volition,"^ meddai (tu dalen 184), "is the impression which arises when the idea of a bodily or mental action is accompanied by the aesire that the^ action should be accomplished. It differs from other desires simply in the fact that we regard ourselyes as possible causes of