Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PARCH. D. C. DAVIES, M.A., AR " GRISTIONOGAETH." VI. Y GAIR "CRISTIONOGAETH." Mewn ymddyddan cyffredin fe ddefnyddir y gair " Cristion " am bwy bynag sydd yn proffesu dilyn yr Arglwydd Iesu; a'r gair " Cristionog- aeth " am yr addysg a roddodd, yr ordinhadau a sefydlodd, a'r ymddyg- iad ag y rhoddodd Efe esiampl o hono yn ei fywyd. Ond y mae y darnodiad hwn yn neillduol o benagored ac anmhenderfynol. Fe all gynnwys llawer, neu yn nesaf i ddim: gellir dadleu ynghylch pynciau yr addysg, anghytuno o barth i'r ordinhadau, a methu cydweled gyda golwg ar berthynas yr ymddygiad a'r esiampl. Fe ddichon y ceir ambell un yn barod i gjrfrif ei hun yn Gristion am ei fod yn cyd- synio â'r bregeth ar y mynydd, ond ar yr ammod o'i fod yn cael caniatâd i adael allan y gair "Duw" o bob adnod lle y ceir ef, neu ryddid i'w ystyried yn air barddonol yn unig! Y mae yn sicr fod y geiriau "Cristion" a " Christionogaeth," fel llawer o eiriau pwysig eraill, yn cael eu gwaghâu yn bur aml o bob ystyr neillduol. Ac nid oes dim yn fwy peryglus, ac ysywaeth yn fwy cyffredin, nag i air ag oedd ar y cyntaf yn cynnwys meddwl mawr, eang, dwfn, golli yn ngolwg y rhai sydd yn ei lefaru, trwy arferiad parhâus o hono a chynnefindra âg ef, ei holl ystyr. Er fod y gair ynddo ei hun yn parhâu i gynnwys ei ystyr wreiddiol, eto, i'r rhai sydd yn ei ddefnyddio, fe all ddisgyn i fod yn air yn unig, heb gymaint ag awgrymu meddwl o gwbl; yn air marw, yn gorff o sillau a llythyrenau, heb yr un ysbryd o'i fewn. Dyna dynged llawer o eiriau sathredig. Y mae gan ddyn mewn rhyw le neillduedig yn ei enaid fynwent lle y cleddir geiriau meirwon. Y fendith fwyaf iddo a fyddai i ryw Archangel roddi bloedd nes gwaghâu beddau y fynwent, ac anadlu bywyd newydd i'r hen eiriau, a pheri iddynt adgyfodi mewn gogoniant a gwisgo anfarwoldeb. Ac os na ellir cael adgyfodiad cyffredinol o honynt gyda'u gilydd, nid peth bychan a fyddai cael y fraint o dreiglo y maen oddiwrth ddrws y bedd lle y mae y gair "Crist- 1882.—4. 2 b