Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I V3 1" Y TRÂETHODYDD. EOUSSEAU AR ADDYSGIAETH. Yr oedd ymddangosiad Emile gan Jean Jacques Rosseau yn y flwyddyn 1762 yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes Addysgiaeth. Traeth- awd ar addysg ydyw y llyfr, a gellir ei ystyried yn un o'r llawer o achosion ac effeithiau yr ystâd hono o aflonyddwch ac anesmwythder yr hon, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, a gyrhaeddodd ei heithaf yn nymchweliad brenhiniaeth wanllyd a llygredig, ac yn nyrch- afiad pobl ag oeddynt yn hir wedi bod dan draed. Mae y llyfr wedi ei ysgrifenu mewn arddull ddeniadol, ac er yn cyn- nwys llawer o anmherffeithrwydd ac anghysondeb, a hyd yn nod cam- gymeriadau, fe ellir dyweyd ei fod yn dryfrith o wirebau addysgawl o'r gwerth a'r arwyddocâd uchaf. Gellir canfod ynddo sylfeini yr hyn a ystyrir yn awr fel prif egwyddorion y dull priodol o addysgu. Cyd: nabyddai Rousseau ei rwymedigaethau lliosog a mawrion i'r athronydd Seisonig John Locke, ac y mae ei Emile yn dwyn yr un ffunud arwydd- ion na ellir eu camgymeryd o ddylanwad Rabelais, Montaigne, yr Abbé de St. Pierre, yr Abbé Pluche, Crousaz, Condamine, Bonneval, ac, o bosibl hefyd, John Ainos Comenius. Mewn gair, gellir dyweyd gyda chywirdeb fod Emile yn cynnwys llawer o'r hyn a feddylid ac a ysgrif- enwyd ar addysg cyn amser Rousseau, a mwy fyth o'r hyn sydd wedi ymddangos ar y pwnc ar ol ei amser. Y mae, am ychwaneg na chan- rif, wedi gwasanaethu fcl hoff faes helwriaeth i addysgwyr a fyddent yn chwilio am egwyddorion sylfaenol cyfundrefn resymol o addysg- iaeth. Ac eto, y mae yn llyfr, nid yn unig i addysgwyr athronyddol, ond hefyd i rieni yn gyffredinol, ac i bawb sydd yn amcanu at fywyd syml a rhinweddol. Mae yr egwyddor fawr sydd yn gorwedd dan ddamcaniaeth Rousseau gyda golwg ar addysg yn cael ei dadgan yn y frawddeg gyntaf yn y llyfr :—"Mae pobpeth yn dda pan yn gadael dwylaw y Creawdwr; yn nwylaw dyn y mae pobpeth yn dirywio." Hyny yw, y mae dyn wrth natur yn dda, ac nid ocs eisieu ond cymhwysiad doeth o reolau wedi eu seilio ar ddeddfau sefydlog dadblygiad meddyliol er ei hyfforddi, i'w gadw hyd derfyn ei ddyddiau mewn ystâd o berffeithrwydd ! Ni erys Rousseau i wynebu yr anhawsder o roddi cyfrif, ar y ddamcaniaeth yma, am bresennoldeb drygioni a Ilvgredigaeth yn y byd, ond ä ymlaen 1883. b