Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRÀETHODYDD. DABLITHIAU Y PARCH. D. C. DAVIES, M.A., AR « GRISTIONOGAETH." VII. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A'R TEIMLADAU 0 DDEDWYDDWCH A THRUENI. II. Yn y ddarlith hon a'r rhai sydd i ddilyn, sylwn ar y berthynas sydd yn bod rhwng rhinweddau a phechodau, ar y naill law, a dedwydd- wch a thrueni, ar y llaw arall. Nid oes dadl ar y cwestiwn fod rhinweddau yn dwyn i'w canlyn fyrdd o gysuron, ac o'r ochr arall fod troseddau moesol yn cael eu dilyn gan anghysuron cyfatebol. Yn hanes pob oes, pob gwlad, a phob cenedl, yn gystal ag yn hanes teulu- oedd a phersonau unigol, fe geir ffeithiau yn profì y gwirionedd hwn tu hwnt i bob ammheuaeth. Yn ol dadguddiad y Bibl, y mae anian sanct- aidd yn y meddwl a'r galon yn dwyn nid yn unig gysuron naturiol, ond hefyd ddedwyddwch goruwchnaturiol yn y fuchedd hon i ddechreu, ac i fesur mwy mewn buchedd uwch; tra yn gyfatebol i hyny y mae anfoesoldeb yn dwyn anghysur, poen, a thrueni, i'w ganlyn yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Nid yw y cysylltiad ychwaith yn un damwein- iol neu fympwyol; ni ffurfiwyd ef mewn modd penarglwyddiaethol gan allu dynol na dwyfol; cysylltiad ydyw sydd yn bod o angen- rheidrwydd, ac am hyny y mae yn annattodol. A chan fod y berth- ynas yn ffaith o'r fath ag ydyw, fe ellir ei defnyddio ar dir teg a chyf- reithlawn fel cymhelliad i wneuthur yr hyn sydd dda, ac i ochel yr hyn sydd ddrwg. Yn gymhelliad, meddwn, ond nid yr unig gymhelliad, na'r prif gymhelliad, eithr un ymhlith llawer o gymhelliadau eraill. Am fod y berthynas hon yn cynnwys cysuron beunyddiol dynion yn gystal â'u dedwyddwch dyfodol, ac am ei bod mor hawdd i'w deall ganddynt, fe all eu cymhell i fywyd o rinwedd yn llawer mwy effeithiol nag, hwyrach, y gallai ystyriaethau mwy dyrchafedig. Y mae canlyn- ìadau pechod yn llawer haws eu darlunio nag ysgelerder pechod 1888. i