Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y CORFF CYMDEITHASOL. Nid ydyw athroniaeth foesol Seisonig mwyach yn gyfyngedig i unig- oliaeth, neu indwidualism yn unig. Fe ddilynodd Hume yr egwyddor- ion hyny i'w canlyniad eithaf, ar dir rhesymeg, ac fe'u gwrthbrofodd fel damcaniaeth gwybodaeth trwy ddadguddio yr ammheuyddiaeth hollol s^dd yn gynnwysedig ynddynt. Mae y cwestiwn a orwedda wrth sail y Critique of Pure Reason yn dangos fod Kant yn ystyr- ied gwaith Hume yn derfynol, ac unigoliaeth yn wythien o feddwl oedd wedi ei gweithio allan. Fe ddarfu i hanesiaeth hefyd gadarnhâu dysgeidiaeth ddinystriol Hume pan dderbyniodd unigoliaeth ei gwrth- brawf ymarferol yn y Chwyldroad Ffrengig. Yn ddamcaniaethol yn gystal ag yn ymarferol fe ddarfu i'r symudiad meddyliol oedd yn dadgyfanu, orphen ei waith a'i hyspyddu ei hun ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Yr ydoedd yn ysgar y dyn oddiwrth ei gylchyniadau, neu ei eniúronments, yn anianyddol ac ysbrydol, ac yna yn cael nad ydoedd ei dysgeidiaeth ond cysgod o athroniaeth gau. Mae yr oes hon yn ymwrthod â'r athroniaeth a olygai feddwl fel peth ymsyniol yn gweithredu mewn gwagder ; y mae wedi colli ffydd mewn Melchi- sedecau moesol, a hawlia gan bawb linach eu harferion o feddwl a gweithredu. Mae cwestiynau unigoliaeth yn colli eu dyddordeb, ac y mae cwestiynau newyddion, a orweddent tu hwnt i derfyngylch oes sydd wedi myned heibio, trwy ddystaw ddadblygiad y meddwl cyffred- inol, wedi dyfod yn awr i'r lle blaenaf. Mae sylw dysgedigion y dydd- iau hyn yn cael ei gyfeirio at gysylltiadau personau unigol, yn hytrach nag at bersonau unigol eu hunain; ac fe olygir y cysylltiadau hyny, mewn ystyr fwy neu lai anmhenodol, fel yn hanfodol i, os nad yn gwneyd i fyny bersonau unigol. Y mae damcaniaeth y dyddiau hyn, mewn gair, yn adgyfanol o ran ei duedd. Ymdrecha i'w ryddhâu ei hun oddiwrth ei hen ronynolrwydd, ac i gyfaddasu y person unigol at yr hyn sydd yn ei gylchynu. Y mae damcaniaethau mewn perthynas i gymdeithas yn cymeryd lle damcaniaethau mewn perthynas i'r person unigol; a phan*wneir y person unigol yn destun ymchwiliad fe geir ei fod, a dyweyd y lleiaf, yn arallol, neu yn dangos perthynas âg eraill yn gystal ag yn fyf'iol, neu yn gofalu yn unig am dano ei hun. 1884. B