Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

V TRÀETHODYDD. IL I AD HOMEE. Y LLYFR CYNTAF. Y DEFNYDD. Yr haint, a'r ymryton rhwng Acläles ac Agamemnon. Yn rhyfel Caerdroia, y Groegiaid wedi anrheithio rhai o'r trefydd amgylchol, a dwyn, ymysg y caffaeliaid, ddwy gaethes landeg, Chrys'éis a Brisëis, a wnaethant rodd o'r flaenaf i Agamemnon, ac o'r olaf i Achiles. Am ba achos daw Chryses, tad Chrysëis, ac offeiriad i Apolo, i wersyllfa y Groegiaid er adbrynu ei ferch o gaethiwed, gyda'r hyn egyr y gerdd yn y ddegfed flwyddyn o'r gwarchae. Gwrthyd Àgamemnon gais yr henàfgwr, ac enfyn ef ymaith yn swrth a sarug. Try yntau o'r neilldu, ac erfynia ar ei dduw ddial o hono ar y Groegiaid am y cyfryw sarhâd. Gwrandewir y deisyfiad hwn, a gyr Apolo echryshaint ar y fyddin. Ar j'degfed dydd o barhâd yr haint, geilw Achiles y lluoedd ynghyd i gynghor cyffredinol, ac archa i Calchas, gweledydd y fyddin lîoegaidd, fynegu ar gyhoedd achos y pla, a'r dewin a'i priodola i ddigllonedd Apolo ar gyfrif ymddygiad Agamemnon tuag at Chryses. Ar hyn cyfyd cynhen angerddol rhwng Agamemnon ac Achiles, ac ym- drecha Nestor eu heddychu. Bellach darbwyllir Agamemnon i adferu ei gaethferch ei hun, ond er ymddial am ei golled, cymer feddiant o Brisëis, yspeilran Achiles. Yntau yn ei ddigter a ymgilia, ynghyd à'i wŷr, oddiwrth y rhelyw o'r fyddin. Yna geilw ar ei dduwies-fam, Thetis, a dywed ei gŵyn wrthi, gan geisio ganddi ymbil â Iau am ei nawdd i'r Troiaid, nes peri i'r Groegiaid deimlo y pwys o golli eu dewraf filwr. Caniatâ Iau y dymuuiad, ac o herwydd hyn cyffry nwyd ac eiddigedd Hera, a rhwng Teyrn Olympus a'i gydwedd y d'dadl a ymboetha, ond, drwy gyfryngiad deheuig Hephaistos, dygir hwy i gymmod drachefn. Mawr lid Achiles, nefol Awen, cân, Y marwol lid a ddyg ar fyddin Groeg Aneirif waeau, ac aml enaid dewr I Hades hyrddiodd, a'r gwroniaid wnaeth I gwn yn ysglyf ac ehediaid oll,— 5 Ond bwriad Iau gyflawnid,—er yr awr Yr ymwahanodd yn eu fíyrnig ffrae, Mab Atreus, Agamemnon, brenin gwŷr, A'r llywydd dewr Achiles, dwyfol-dardd. Pa un o'r duwiau, ynte, a'u gyrodd hwy 10 I ymladd mewn dig ddadl ì Mab Leto a Iau. Ef, gan y brenin wedi ei ddigio 'n ddwfn, Gynhyrfodd drwy y fyddin echrys haint, A threngai 'r bobl : o herwydd arsarhâu O Agamemnon Chryses ei offeiriad, 15 1887. g