Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CYMDKITHAS A'K PfiRSON UNIGOL. Ml ddechreuaf gyda gosodiad am ba un y cytunwn oll, ac âf ymlaen at osodiadau am ba rai nad allaf fod yn gwbl hyderus y gallaf bob amser gytuuo â mi fy hun. Y gosodiad cyntaf yw, Fod yr oes hon wedi dangos y fath ddyddor- deb mewn natur, a'r fath allu i ddirnad ei gweithrediadau ac i gymhwyso ei nerthoedd at amcanion bywyd dynol. fel y mae ein canrif yn sefyll ar ei phen ei hun ymysg y canrifoedd. Mae yr ail osodiad fel y cyntaf, er feallai nad llawn mor hen a chyffredin. Dyna ydyw, Fod Natur fel gwrthrych o ddirfawr ddyddordeb i ddyn, yn cael mewn dyn ei hunan gydymgeisydd nid dibwys. Mae y dymuuiad i amgyffred deddfau a threfn cymdeithas ddynol, ac i arwain a llywodraethu y nerthoedd sydd yn ymweithio ac yn ymuno o'i mewn, fel ag i sicrhau ffordd fwy darbodus at ddaioni cyffredinol, yn dyfod yn nwyd ymhob cyfeiriad. Ple bynnag y trown, yr ydym yn cael dynion yn trin yr hyn a elwir Cwestiynau Cymdeithasol. Mae y pulpud, yr esgynlawr, y wasg, oll yn hyawdl ar y mater yma. Mae gan y gweithiwr, y gŵr sydd yn meddu arian, y trefnidydd neu economist, y pregethwr, yr aelod Seneddol—neu o leiaf yr ymgeisydd, oll lawer i'w ddweyd, a llawer mwy i'w ddysgu ar y testyn yma o fywyd cymdeithasol. Nid oes yr un o'r buddiou mawrion—bydded waith, masnach, gwleidyddiaeth, neu foeseg,—nad ydyw yn llawn o hono. Mae y meddyliwr a'r dyn ymarferol—a thybied fod y rhai hyn yn wahanol, yr hyn ni raid fod—yn ei gyfarfod ar bob llaw, ac yn gyffredin yn syrthio ar ei draws. Mae arwyddion yr amserau y fath fel na elHr eu camgymeryd. Y maent yn dangos yn glir mai gorchwyl mawr nesaf dyn ydyw ei amgyffred ei hun, a'r drefn gymdeithascl y mae yn ei dal i fyny trwy ei ewyllys feddylgar. Y mae ríurfìo rhyw syniad rhesymol am berthynas dyn â chymdeithas yn dyfod yn orchwyl mor bwysig, fel na ellir ei esgeuluso yu hŵy. Y mae pob math o ddylanwadau yn ein gwasgu i'r ymofyniad hwn. Y mae Natur ei hun, pan gwestiynir hi yn fanwl, yn peri i ddyn chwilio am agoriad ei dirgelion ynddo ei hunan ; oblegid efe ydyw y datganiad mwyaf llawn a mwyaf cryno o'i hystyr. Mae y Gwyddorau Naturiol yn cyfeirio at y Gwyddorau Moesol. Ar yr ochr ymarferol, y mae y pwys yn fwy fyth. Mae yr ymwybyddiaeth, cymharol ddiweddar, o unoliaeth dyn a natur, a ehymhlethrwydd ei gysylltiadau à'i gymdeith- 1898 1